Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Arweinwyr y Cyngor yn paratoi am setliad cyllideb anodd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Food Waste Recycling Caddy
Awgrymiadau defnyddiol i gadw’ch cadi bwyd yn ffres yr haf hwn
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Y cyngor
Gwybodaeth
Oedi mewn casgliadau biniau oherwydd tân mewn gwaith ailgylchu
Y cyngor
Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr
Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Y cyngor
Ydych chi’n gobeithio aros yn Wrecsam yn ystod wythnos yr Eisteddfod yr haf hwn?
Ydych chi’n gobeithio aros yn Wrecsam yn ystod wythnos yr Eisteddfod yr haf hwn?
Busnes ac addysg Digwyddiadau Pobl a lle
50
Arbenigwyr gwelyau hynafol Wrecsam yn dathlu 50 mlynedd
Busnes ac addysg
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Arweinwyr y Cyngor yn paratoi am setliad cyllideb anodd
Pobl a lleY cyngor

Arweinwyr y Cyngor yn paratoi am setliad cyllideb anodd

Diweddarwyd diwethaf: 2018/10/04 at 1:03 PM
Rhannu
Darllen 4 funud
Arweinwyr y Cyngor yn paratoi am setliad cyllideb anodd
RHANNU

Ar 9 Hydref, byddwn ni yma yng Nghyngor Wrecsam yn derbyn ein setliad cyllideb dros dro gan Lywodraeth Cymru.

Gan ofni’r gwaethaf, mae arweinyddiaeth y Cyngor wedi bod wrthi’n paratoi mewn ymdrech i geisio lliniaru’r effaith lawn ar wasanaethau rheng flaen.

Os cawn setliad cyllid teg gan Lywodraeth Cymru, credwn y gallwn gyflawni hyn ar gyfer y flwyddyn 2019/20, er y byddwn yn wynebu heriau sylweddol ym mlwyddyn ariannol 2020/2021.

GALL Y DDAU GAM SYML YMA TROI CHI MEWN I ARCHARWR AILGYLCHU!

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Mae’r gwaith a arweinir gan y Cyngor yn cynnwys cwblhau cam cyntaf adolygiad o uwch reolwyr fydd, os caiff ei gymeradwyo ym mis Tachwedd, yn gwneud arbedion sylweddol ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Ac rydym wedi, a byddwn yn parhau i,  gyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru ar ran ysgolion i sicrhau y bydd cyflogau a chostau eraill yn cael eu cyllido’n llawn.

Ar ôl cyhoeddiad Llywodraeth Cymru, mae’r Cyngor yn bwriadu ymgynghori â’r cyhoedd, fel y gwnaethom yn y blynyddoedd blaenorol, fel rhan o’r ymgynghoriad cyllideb Penderfyniadau Anodd. Thema eleni fydd ‘cydweithio i gefnogi gwasanaethau hanfodol Wrecsam’.

“Gallai gwasanaethau hanfodol fod mewn perygl”

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad a Llywodraethu: “Trwy ein gwaith caled, rydym yn ceisio cefnogi gwasanaethau hanfodol Wrecsam megis gofal cymdeithasol plant ac oedolion a chyllidebau ysgolion.

“Yn y blynyddoedd a aeth heibio, rydym wedi gwneud arbedion a thoriadau sylweddol i wasanaethau gan lwyddo i gael yr effaith leiaf bosib ar wasanaethau rheng flaen hanfodol.

Ond os na chawn ni setliad teg gan Lywodraeth Cymru, allwn ni ddim dod i ben â hyn ar gyfer 2019/20. Gallai’r gwasanaethau hanfodol hyn fod mewn perygl.

“Os derbyniwn ni setliad teg, byddwn yn awyddus i glywed wedyn gan drigolion, fel rhan o’r ymgynghoriad Penderfyniadau Anodd, sut y gallwn ni gydbwyso materion fel Treth y Cyngor a darparu gwasanaethau yn y dyfodol – megis gwasanaethau gwastraff a’r llyfrgelloedd – mewn modd sy’n golygu na fydd rhaid i ni wneud toriadau difrifol i wasanaethau hanfodol gyda’r setliad.

“Ni ddaeth yr un ohonom ni fel gwleidyddion nag uwch swyddogion i mewn i wasanaeth cyhoeddus er mwyn delio â’r mathau hyn o broblemau, ond hyd nes y bydd y caledi ariannol a’r setliadau cyllideb gwael hyn yn dod i ben, fe wnawn ni fel arweinwyr y cyngor ein gorau glas ar ran y trigolion.”

Mae Cyngor Wrecsam wedi gwneud £33.8m o arbedion a thoriadau yn y pum mlynedd diwethaf, a bron i £60m ers i’r argyfwng ariannol gychwyn yn 2007/08.

Gwnaed dros dri chwarter yr arbedion hyn gyda’r effaith leiaf bosib ar fwyafrif y cyhoedd, a heb orfod gwneud toriadau eithafol i’r amrediad o wasanaethau hanfodol a ddarperir. Mae’r cyngor bellach yn credu ein bod ni wedi cyrraedd pwynt tyngedfennol lle bydd gwasanaethau hanfodol mewn perygl os na fydd y setliad yn un teg neu os na ellir cytuno ar benderfyniadau anodd gyda’r cyhoedd.

Sut i fod yn archarwr ailgylchu…mewn dau gam syml.

DERBYNIWCH AWGRYMIADAU AILGYLCHU

Rhannu
Erthygl flaenorol Ffioedd clybiau brecwast ysgolion Ffioedd clybiau brecwast ysgolion
Erthygl nesaf Cardboard Egg Box Recycling Eich canllaw ailgylchu syml – beth sy’n mynd i ble?

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Food Waste Recycling Caddy
Awgrymiadau defnyddiol i gadw’ch cadi bwyd yn ffres yr haf hwn
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 1, 2025
Gwybodaeth
Oedi mewn casgliadau biniau oherwydd tân mewn gwaith ailgylchu
Y cyngor Gorffennaf 1, 2025
Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr
Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Y cyngor Mehefin 30, 2025
Ydych chi’n gobeithio aros yn Wrecsam yn ystod wythnos yr Eisteddfod yr haf hwn?
Ydych chi’n gobeithio aros yn Wrecsam yn ystod wythnos yr Eisteddfod yr haf hwn?
Busnes ac addysg Digwyddiadau Pobl a lle Mehefin 30, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Food Waste Recycling Caddy
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lleY cyngor

Awgrymiadau defnyddiol i gadw’ch cadi bwyd yn ffres yr haf hwn

Gorffennaf 1, 2025
Gwybodaeth
Y cyngor

Oedi mewn casgliadau biniau oherwydd tân mewn gwaith ailgylchu

Gorffennaf 1, 2025
Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lleY cyngor

Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr

Mehefin 30, 2025
Ydych chi’n gobeithio aros yn Wrecsam yn ystod wythnos yr Eisteddfod yr haf hwn?
Busnes ac addysgDigwyddiadauPobl a lle

Ydych chi’n gobeithio aros yn Wrecsam yn ystod wythnos yr Eisteddfod yr haf hwn?

Mehefin 30, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English