Wrth i’r Eisteddfod Genedlaethol gyrraedd Wrecsam yr haf hwn, mae ymwelwyr yn cael eu hannog i archwilio’r sir a darganfod mwy am ddiwylliant Wrecsam drwy gymryd rhan yn Ffrinj Wrecsam, rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal ar draws Bwrdeistref Sirol Wrecsam rhwng 2-9 Awst.
Mae Ffrinj Wrecsam yn dod â chymysgedd eang o ddigwyddiadau ynghyd – o gerddoriaeth fyw a’r celfyddydau gweledol i farchnadoedd stryd, gweithdai, perfformiadau a gweithgareddau sy’n addas i deuluoedd.
Mae Ffrinj Wrecsam yn cael ei arwain gan fusnesau lleol, lleoliadau diwylliannol, grwpiau cymunedol a’r cyngor ac mae’n gyfle i ymwelwyr ymgolli ym mhopeth sydd gan Wrecsam i’w gynnig ac annog ymwelwyr yr Eisteddfod i archwilio, bwyta, yfed, cymdeithasu a mwynhau’r hyn sydd ar gael.
Yr Eisteddfod Genedlaethol yw un o wyliau diwylliannol mwyaf Ewrop a allai ddenu hyd at 175,000 o ymwelwyr eleni. Mae’n ddathliad o’r iaith Gymraeg, diwylliant, treftadaeth a chreadigrwydd Cymru, yn cynnwys cystadlaethau, perfformiadau ac arddangosfeydd ar draws llenyddiaeth, cerddoriaeth, celf a mwy.
Mae’r holl ddigwyddiadau sy’n rhan o Ffrinj Wrecsam wedi’u rhestru ar dudalen digwyddiadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam o dan y categori pwrpasol ‘Eisteddfod’, gan ddarparu un man hawdd i bobl leol ac ymwelwyr gynllunio eu hwythnos.
Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, yr Aelod Arweiniol dros yr Economi, Busnes a Thwristiaeth: “Bydd ymweliad yr Eisteddfod yn rhoi hwb mawr i’r Gymraeg, ein diwylliant a’r economi.
“Drwy Ffrinj Wrecsam, rydym eisiau annog pobl sy’n ymweld â’r Maes i archwilio ein sir, darganfod digwyddiadau lleol, a chefnogi’r busnesau a’r cymunedau gwych sydd gennym yma.
“Os ydych yn ymweld am ddiwrnod neu’n aros am yr wythnos, mae cymaint mwy i’w weld ar draws Wrecsam.”
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol dros Gynllunio, Diogelu’r Cyhoedd, Hyrwyddwr y Gymraeg ac sydd â chyfrifoldeb dros Tŷ Pawb: “Mae Tŷ Pawb yn falch iawn o chwarae rhan allweddol yn Ffrinj Wrecsam eleni, gyda rhestr amrywiol o ddigwyddiadau drwy gydol wythnos yr Eisteddfod.
“O gerddoriaeth fyw ac arddangosfeydd i weithdai a gweithgareddau plant, bydd rhywbeth i bawb ei fwynhau.
“Mae hwn yn gyfle gwych i ymwelwyr yr Eisteddfod ymweld â Wrecsam hefyd a phrofi gofod diwylliannol penigamp a bywiog Tŷ Pawb, a mwynhau popeth sydd gan Wrecsam i’w gynnig.”
Eisiau bod yn rhan ohono?
Os ydych chi’n cynllunio digwyddiad yn ystod wythnos yr Eisteddfod ac eisiau cael eich cynnwys yn rhaglen Ffrinj Wrecsam, gallwch gofrestru eich digwyddiad ar restr digwyddiadau CBSW.
Ewch i: https://www.wrecsam.gov.uk/events/category/eisteddfod
(Dewiswch y categori ‘Eisteddfod’ wrth lanlwytho eich digwyddiad)
Rydym yn awyddus i holl ddigwyddiadau’r Ffrinj fod yn groesawgar ac yn gynhwysol, ac i adlewyrchu a pharchu’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru.
Lle bynnag y bo modd, rydym yn annog trefnwyr i ymgorffori elfennau o’r Gymraeg, boed hynny drwy arwyddion dwyieithog, marchnata, neu o fewn y digwyddiad ei hun, i helpu i ddathlu hunaniaeth unigryw Wrecsam yn ystod wythnos yr Eisteddfod.
Os oes angen ychydig o help arnoch gyda chyfieithiadau Cymraeg neu rywun i wirio eich Cymraeg i wneud yn siŵr ei fod yn hollol gywir, gallwch fynd i Helo Blod i gyfieithu hyd at 500 o eiriau y mis AM DDIM.
Chwilio am ragor o wybodaeth am yr Eisteddfod? Fe welwch bopeth sydd ei angen arnoch ar y gwefannau isod: