Beth am i ni gynyddu ein huchelgais gyda’n gilydd
wrecsam2025.com (gwefan)
#Wrecsam2025 (ein #nod)
Bod yn Ddinas Diwylliant 2025
- Cystadleuaeth a gaiff ei rhedeg gan DCMS – adran y DU dros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, yw Dinas Diwylliant y DU.
- Mae Dinas Diwylliant y DU a cheisiadau am Statws Dinas yn ddwy gystadleuaeth hollol wahanol.
- Dyma’r tro cyntaf i geisiadau am Ddinas Diwylliant y DU fod ar agor i leoedd nad ydynt yn ddinasoedd, gan ganiatáu i drefi a rhanbarthau wneud cais – felly aethom amdani.
- Mae cais Wrecsam yn cwmpasu’r sir gyfan, nid y dref yn unig.
- Wrecsam yw’r unig ranbarth yng Nghymru sydd wedi cyrraedd y rhestr hir o ardaloedd sy’n cystadlu am deitl Dinas Diwylliant y DU 2025.
- Bydd cam nesaf cystadleuaeth Dinas Diwylliant y DU ym mis Chwefror pan fydd cyflwyniad arall yn cael ei wneud i’r beirniaid – yna bydd y cystadleuwyr yn gostwng o 8 i 3…ond ein nod yn y pen draw yw datblygu ymhellach fyth ac ennill y gystadleuaeth hon i Wrecsam!
- Byddai ennill y gystadleuaeth yn gyfle unigryw am newid trawsnewidiol, gan gyflwyno buddsoddiad, swyddi, balchder a chynulleidfa ryngwladol i weld pa mor wych ydym ni – yn ogystal â bod ag etifeddiaeth hir pan fydd ein blwyddyn o gynnal wedi dod i ben.
- Mae ein logo lliwgar #Wrecsam2025 yn cynrychioli llwch glo i gynrychioli ein gorffennol diwydiannol, ac mae’r lliwiau a ddefnyddir yn cynrychioli egni ac amrywiaeth pob un ohonom sy’n byw, gweithio a chwarae yn Wrecsam.
- Mae ein logo hefyd yn cynnwys sillafiad Cymraeg Wrecsam – Rydym ni’n Gymreig, Rydym ni’n siarad Cymraeg, a byddwn yn annog defnyddio’r iaith bob amser.
- Rydym yn annog unigolion i rannu eu profiadau o’r hyn sy’n wych am Wrecsam yn eu barn nhw trwy ddefnyddio’r #nod #Wrecsam2025
- Gallai hwn fod yn foment “Roeddwn i yno” ar gyfer y rhanbarth.
Manteision economaidd:
- Caiff Wrecsam ei weld fel rhanbarth i fuddsoddi ynddo cyn, yn ystod ac ar ôl cynnal y teitl, o ran buddsoddiad allanol, ac o fewn Wrecsam.
- Bydd Wrecsam a’r ardaloedd cyfagos yn gweld hwb o ran twristiaeth o ganlyniad.
- Caiff ein rhanbarth gymorth i adfer ar ôl Covid, gyda chynnydd o ran nifer yr ymwelwyr i’r sir a chanol y dref
- Bydd cynnal Dinas Diwylliant y DU 2025 yn cynyddu ein proffil rhyngwladol ymhellach
- Cafodd Hull fuddsoddiad o tua £219million wrth gynnal y teitl yn 2017, yn ogystal â chynhyrchu 800 o swyddi o ganlyniad uniongyrchol i’r teitl.
Buddion eraill:
- Wrecsam fydd canolbwynt y DU ar gyfer diwylliant.
- Byddwn ni’n cynyddu ein huchelgais gan greu newidiadau cadarnhaol i ganfyddiadau am Wrecsam a hynny’n lleol, a byd-eang.
- Dyma ein cyfle i ddangos i’r byd pwy ydym ni a beth sydd gennym i’w gynnig – bydd y teitl yn arwain at ragor o ymgysylltu â’r gymuned a chynhwysiad
- Mae enillwyr blaenorol wedi cynnal Gwobrau Mobo, Gwobr Celf Turner a phenwythnos mawr Radio 1.
- Pe bai Wrecsam yn ennill, byddai’n golygu bod y wobr yn dod i Gymru am y tro cyntaf.
EIN CAIS
- Mae tîm cais Dinas Diwylliant Wrecsam 2025 wedi’i sefydlu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac maen nhw’n gweithio’n galed ar gam nesaf y cais.
- Bydd rhagor o ymgysylltu â’r gymuned, ymgynghori a digwyddiadau.
- Os bydd yn llwyddiannus, caiff ymddiriedolaeth ar wahân ei sefydlu i redeg gweithrediadau Dinas Diwylliant
- Mae ein cais yn seiliedig ar 6 maes canolbwynt:
- Canolfan fasnach a digwyddiadau yng Ngogledd Cymru;
- “Prif Ddinas Chwarae” y DU;
- Cartref pêl-droed yng Nghymru;
- Arweinwyr mewn arloesedd;
- Y Gymraeg a diwylliant Cymru; ac
- Amrywiaeth ddiwylliannol sy’n datblygu.
Enillwyr blaenorol:
Derry/Londonderry 2013 (Cyfranogwyr cyntaf)
Hull : 2017
Coventry 2021-22 (Deiliaid presennol)
2025 – Gyda lwc, Wrecsam!
Rhagor o wybodaeth:
https://newyddion.wrecsam.gov.uk/51512/
https://www.bbc.co.uk/iplayer/group/p09k9hmw
https://www.gov.uk/government/collections/uk-city-of-culture-2025
https://www.theguardian.com/culture/2017/nov/19/what-next-hull-year-uk-city-culture-2017
https://www.visitcoventry.co.uk/events/40/cityofculture2021
https://twitter.com/coventry2021
http://www.yourvoicewrexham.net/survey/1454