Mae’n ofyniad cyfreithiol, yn y rhan fwyaf o amgylchiadau i weithredwyr teithio fod â mesurau wedi’u sefydlu i ddiogelu lles eu cwsmeriaid.
Yn benodol, rhaid diogelu arian cwsmeriaid ar ffurf blaendaliadau, ayyb, rhag methdaliad, ac mae’n rhaid sefydlu mesurau i sicrhau y gall gwsmeriaid fynd adref os yw’r gweithredwr yn rhoi’r gorau i weithredu tra maent i ffwrdd. Mae hefyd yn ofyniad cyfreithiol i gynhyrchu tystiolaeth bod mesurau o’r fath wedi’u sefydlu pan fo angen.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Cynghorir preswylwyr os ydynt yn ystyried archebu gwyliau pecyn o unrhyw fath y dylent geisio sicrhau bod y gofyniad diogelwch cyfreithiol wedi’i sefydlu rhag ofn i’r cwmni teithio fynd yn fethdalwyr. Os nad yw teithwyr yn cael yr wybodaeth hon fel rhan o’r broses archebu, dylent ofyn am gadarnhad cyn cadarnhau archeb.
Gall bobl sy’n mynd ar wyliau gael diogelwch ychwanegol trwy dalu’r cyfan neu ran o gost eu gwyliau gyda cherdyn credyd. Os bydd problemau yn codi gan fod y cwmni gwyliau wedi rhoi’r gorau i weithredu, gellir hawlio yn erbyn y cwmni cerdyn credyd. Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i gardiau credyd yn unig, ac nid taliadau cerdyn debyd.
I gael rhagor o gyngor am wyliau neu unrhyw faterion defnyddwyr eraill, ffoniwch Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505 (Gwasanaeth Saesneg 03454 040506)
FFONIWCH AR EICH FFÔN SYMUDOL