Mae Caffi Trwsio Cymru yn chwilio am gefnogaeth ar gyfer ymgyrch sy’n annog pobl i drwsio yn hytrach na disodli eu heitemau, gan hyrwyddo cynaliadwyedd a lleihau gwastraff.
Ym mis Chwefror eleni, mae trigolion Wrecsam yn cael eu gwahodd i addo trwsio o leiaf un eitem sydd wedi torri– gan arbed arian, lleihau gwastraff, a chefnogi cynaliadwyedd yn lleol.
Gallai addewidion gynnwys gwnïo botwm, clytio dillad, neu adfer un o’ch hoff eitemau. Os ydych yn teimlo nad yw eich sgiliau trwsio yn ddigon da, peidiwch â phoeni!
Mae trigolion yn cael eu hannog i gasglu unrhyw eitemau sydd angen eu trwsio ym mis Chwefror yn barod ar gyfer y caffi trwsio nesaf yn Wrecsam, sy’n cael ei gynnal fis nesaf.
Bydd Caffi Trwsio Wrecsam yn cynnal ei ddigwyddiad nesaf ddydd Sadwrn, Mawrth 8, 11am-1pm yng Nghanolfan Parc Caia, Prince Charles Road, LL13 8TH.
Galwch heibio gyda’ch eitem sydd wedi torri neu wedi’i difrodi, a bydd y trwswyr gwirfoddol yn ceisio ei hatgyweirio am ddim. Gallwch fwynhau paned o de neu goffi, a sgwrsio â’ch cyd-gymdogion wrth i chi aros.
Gallwch hefyd weld dyddiadau digwyddiadau yn y dyfodol ar wefan Caffi Trwsio Cymru, neu dudalen Facebook Caffi Trwsio Wrecsam y gallwch ei dilyn hefyd ar gyfer y diweddariadau.
Bydd y gwaith trwsio a gwblheir gan Gaffi Trwsio Wrecsam yn cyfrannu at nod Caffi Trwsio Cymru, sef trwsio 1,000 o eitemau yng Nghymru ym mis Chwefror; gostyngiad carbon a fydd yn arbed cyfwerth â gyrru car dros 360,000 o filltiroedd.
Ers lansio Caffi Trwsio Cymru, mae’r fenter wedi helpu cymunedau lleol i arbed £1 miliwn ac wedi atgyweirio dros 21,000 o eitemau.
Nod ymgyrch “Fix it Feb” yw cynyddu’r effaith honno drwy rymuso hyd yn oed mwy o bobl i drwsio eitemau, gan leihau’r angen am nwyddau newydd.
“Gall trwsio pethau fod yn syml, yn hygyrch ac yn werth chweil”, meddai Phoebe, Cyfarwyddwr Caffi Trwsio Cymru. “Nid yn unig y mae’n arbed arian ac yn lleihau gwastraff, ond mae’n ffordd wych i’r gymuned leol ddod at ei gilydd i rannu sgiliau a syniadau. Gyda “Fix It Feb,” rydym yn dangos i Gymru sut y gall camau bach wneud gwahaniaeth mawr i’r amgylchedd a’n cymunedau.”
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd a Hyrwyddwr Hinsawdd: “Mae caffis trwsio yn gwneud gwaith gwych sy’n galluogi pobl i gadw eu heitemau am fwy o amser, gan helpu i arbed adnoddau, lleihau olion traed carbon ac arbed arian i bobl. Rydym yn annog ein trigolion i gefnogi’r ymgyrch ‘Fix it Feb’.”
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Mae defnyddio caffi trwsio yn hytrach na phrynu eitemau newydd yn helpu’r amgylchedd yn aruthrol. P’un a yw’n ymwneud â thrwsio offer y cartref, clytio siwmper annwyl, neu adfer hoff degan, mae’r cyfan yn gwneud gwahaniaeth.”
Ymunwch â’r Mudiad! Rhowch eich cefnogaeth i “Fix It Feb” gan ymweld â gwefan Caffi Trwsio Cymru. Gwnewch eich addewid heddiw a byddwch yn rhan o’r mudiad ar gyfer Cymru fwy cynaliadwy a di-wastraff.