Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Annog trigolion Wrecsam i ymuno ag ymgyrch “Fix It Feb” Caffi Trwsio Cymru
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Datgarboneiddio Wrecsam > Annog trigolion Wrecsam i ymuno ag ymgyrch “Fix It Feb” Caffi Trwsio Cymru
Pobl a lleDatgarboneiddio Wrecsam

Annog trigolion Wrecsam i ymuno ag ymgyrch “Fix It Feb” Caffi Trwsio Cymru

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 18, 2025 2:23 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Annog trigolion Wrecsam i ymuno ag ymgyrch "Fix It Feb" Caffi Trwsio Cymru
RHANNU

Mae Caffi Trwsio Cymru yn chwilio am gefnogaeth ar gyfer ymgyrch sy’n annog pobl i drwsio yn hytrach na disodli eu heitemau, gan hyrwyddo cynaliadwyedd a lleihau gwastraff.

Ym mis Chwefror eleni, mae trigolion Wrecsam yn cael eu gwahodd i addo trwsio o leiaf un eitem sydd wedi torri– gan arbed arian, lleihau gwastraff, a chefnogi cynaliadwyedd yn lleol.

Gallai addewidion gynnwys gwnïo botwm, clytio dillad, neu adfer un o’ch hoff eitemau. Os ydych yn teimlo nad yw eich sgiliau trwsio yn ddigon da, peidiwch â phoeni!

Mae trigolion yn cael eu hannog i gasglu unrhyw eitemau sydd angen eu trwsio ym mis Chwefror yn barod ar gyfer y caffi trwsio nesaf yn Wrecsam, sy’n cael ei gynnal fis nesaf.

Bydd Caffi Trwsio Wrecsam yn cynnal ei ddigwyddiad nesaf ddydd Sadwrn, Mawrth 8, 11am-1pm yng Nghanolfan Parc Caia, Prince Charles Road, LL13 8TH.

Galwch heibio gyda’ch eitem sydd wedi torri neu wedi’i difrodi, a bydd y trwswyr gwirfoddol yn ceisio ei hatgyweirio am ddim. Gallwch fwynhau paned o de neu goffi, a sgwrsio â’ch cyd-gymdogion wrth i chi aros.

Gallwch hefyd weld dyddiadau digwyddiadau yn y dyfodol ar wefan Caffi Trwsio Cymru, neu dudalen Facebook Caffi Trwsio Wrecsam y gallwch ei dilyn hefyd ar gyfer y diweddariadau.

Bydd y gwaith trwsio a gwblheir gan Gaffi Trwsio Wrecsam yn cyfrannu at nod Caffi Trwsio Cymru, sef trwsio 1,000 o eitemau yng Nghymru ym mis Chwefror; gostyngiad carbon a fydd yn arbed cyfwerth â gyrru car dros 360,000 o filltiroedd.

Ers lansio Caffi Trwsio Cymru, mae’r fenter wedi helpu cymunedau lleol i arbed £1 miliwn ac wedi atgyweirio dros 21,000 o eitemau.

Nod ymgyrch “Fix it Feb” yw cynyddu’r effaith honno drwy rymuso hyd yn oed mwy o bobl i drwsio eitemau, gan leihau’r angen am nwyddau newydd.

“Gall trwsio pethau fod yn syml, yn hygyrch ac yn werth chweil”, meddai Phoebe, Cyfarwyddwr Caffi Trwsio Cymru. “Nid yn unig y mae’n arbed arian ac yn lleihau gwastraff, ond mae’n ffordd wych i’r gymuned leol ddod at ei gilydd i rannu sgiliau a syniadau. Gyda “Fix It Feb,” rydym yn dangos i Gymru sut y gall camau bach wneud gwahaniaeth mawr i’r amgylchedd a’n cymunedau.”

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd a Hyrwyddwr Hinsawdd: “Mae caffis trwsio yn gwneud gwaith gwych sy’n galluogi pobl i gadw eu heitemau am fwy o amser, gan helpu i arbed adnoddau, lleihau olion traed carbon ac arbed arian i bobl. Rydym yn annog ein trigolion i gefnogi’r ymgyrch ‘Fix it Feb’.”

Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Mae defnyddio caffi trwsio yn hytrach na phrynu eitemau newydd yn helpu’r amgylchedd yn aruthrol. P’un a yw’n ymwneud â thrwsio offer y cartref, clytio siwmper annwyl, neu adfer hoff degan, mae’r cyfan yn gwneud gwahaniaeth.”

Ymunwch â’r Mudiad! Rhowch eich cefnogaeth i “Fix It Feb” gan ymweld â gwefan Caffi Trwsio Cymru. Gwnewch eich addewid heddiw a byddwch yn rhan o’r mudiad ar gyfer Cymru fwy cynaliadwy a di-wastraff.

Y cyfan sydd angen i chi ei wybod am adnewyddu eich tanysgrifiad gwastraff gardd – Newyddion Cyngor Wrecsam

Pryd mae fy miniau’n cael eu casglu? Gwiriwch ddiwrnod casglu eich bin a chofrestrwch i gael nodiadau atgoffa.

TAGGED:amgylcheddDatgarboneiddiodecarbonisationenvironment
Rhannu
Erthygl flaenorol funding Dyma’ch Gwahoddiad! Sut i Fwrw’r Targed Ariannu: Gweithdy Ysgrifennu Cynigion Grant
Erthygl nesaf Sesiwn Galw Draw - Stondinau Eisteddfod 2025 Sesiwn Galw Draw – Stondinau Eisteddfod 2025

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
Ty Pawb and Pittsburgh University
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English