Mae FOCUS Wales wedi cyhoeddi ei fod yn gweithio ar y cyd gyda SXSW i gyflwyno sioe gyffrous yn Wrecsam yn ystod Wythnos Lleoliad Annibynnol, a gaiff ei gynnal ar ddydd Gwener 1 Chwefror yn The Live Rooms, Wrecsam ac yn cynnwys tri band cyffrous o Gymru.
Mae Wythnos Lleoliad Annibynnol yn ddathliad 7 diwrnod o leoliadau cerddoriaeth bychain o amgylch y wlad, ac yn cydnabod y bobl sy’n berchen, rhedeg a gweithio ynddynt o ddydd i ddydd. Mae’r lleoliadau hyn yn rhoi profiad cyntaf i artistiaid o chwarae’n fyw o flaen cynulleidfa ac ar gyfer cefnogwyr, llefydd i fod yn agos at artistiaid a fydd efallai, un diwrnod, yn chwarae mewn stadia a phrif lwyfannau mewn gwyliau.
Bydd y sioe yn Wrecsam yn cynnwys perfformiadau gan ddau artist mwyaf addawol y genedl, Gallops a Kidsmoke, a fydd yn chwifio’r faner i Gymru yng Ngŵyl SXSW yn Austin, Texas fis Mawrth. Yn ymuno â’r bandiau hyn fydd Glove, sydd wedi dod o dan adain y newyddiadurwr cerddoriaeth ac awdur sydd wedi ennill gwobrau, John Robb.
Mae tocynnau ar gyfer y sioe ar werth yn awr drwy dudalen Facebook FOCUS Wales a Gigantic Tickets
I ddysgu mwy am Wythnos Lleoliad Annibynnol, ymwelwch â independentvenueweek.com
Yn ogystal, mae FOCUS Wales wedi cyhoeddi dros 100 o’r artistiaid fydd yn cymryd rhan yn yr ŵyl ym Mai, gan gynnwys: Boy Azooga, The Lovely Eggs, Neck Deep, Skindred, a BC Camplight. I weld y rhestr lawn o’r artistiaid a gyhoeddwyd hyd yma, ac i brynu band arddwrn 3 diwrnod yr ŵyl, ymwelwch â focuswales.com/hafan/
Cynhelir FOCUS Wales 2019 ar 16, 17 ac 18 Mai mewn sawl lleoliad yn Wrecsam, Gogledd Cymru. Mae bandiau garddwrn ar gyfer mynediad i holl ddigwyddiadau FOCUS Wales ar gael nawr o http://www.focuswales.com/tocynnau/ am bris tocyn cynnar o £35 yr un. Caiff FOCUS Wales ei gefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ysgol meithrin yn 2019 yw Chwefror 22
YMGEISIWCH NAWR