Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Swydd fydd yn cael effaith ar 135,000 o fywydau. Ai hon yw’r swydd i chi?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Swydd fydd yn cael effaith ar 135,000 o fywydau. Ai hon yw’r swydd i chi?
Arall

Swydd fydd yn cael effaith ar 135,000 o fywydau. Ai hon yw’r swydd i chi?

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 17, 2019 5:28 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Keeping Wrexham's streets clean
RHANNU

Swydd fydd yn cael effaith ar 135,000 o fywydau. Ai hon yw’r swydd i chi?

Cynnwys
  • Ysbrydoli’r bobl sy’n gofalu am ein strydoedd
  • Felly ble mae Wrecsam?
  • Oes gennych chi’r sgiliau?

Fyddech chi’n gallu arwain adran o 300 o bobl, rheoli cyllideb gwerth sawl miliwn o bunnau, a gwneud rhan fach wych o’r byd ychydig yn well?

Os felly (ac os ydych yn chwilio am swydd sy’n rhoi llawer o foddhad), efallai y bydd hyn o ddiddordeb i chi…

Ysbrydoli’r bobl sy’n gofalu am ein strydoedd

Rydym yn chwilio am Brif Swyddog i arwain ein Hadran Amgylchedd a Thechnoleg.

Rhywun sy’n gallu arwain ac ysbrydoli’r bobl sy’n gofalu am ein strydoedd, ein ffyrdd a’n parciau gwledig, y bobl sy’n casglu ein sbwriel a’r bobl sy’n sicrhau ein bod ni’n parhau i ailgylchu, a llawer o weithwyr eraill sy’n helpu i ofalu am ein sir.

I’r unigolyn cywir, mae hwn yn gyfle gyrfa wych ac yn gyfle i wneud gwahaniaeth i fywydau 135,000 o bobl.

Faint o swyddi sy’n gallu cynnig hynny?

Wrecsam

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Mae pobl yn Wrecsam yn haeddu’r gwasanaethau gorau, ac mae hynny’n golygu cael y bobl gorau i ddod i weithio yma.

“Mae arnom ni angen rhywun sydd â’r profiad a’r wybodaeth ymarferol arbennig i arwain adran fawr, a chymryd cyfrifoldeb dros rai o’n swyddogaethau mwyaf gweledol – gwasanaethau sy’n cael effaith ar bron i bob un aelwyd yn y sir.

“Mae hon yn swydd bwysig tu hwnt, ond mae hefyd yn gyfle gwych i’r unigolyn cywir.”

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://www.adeiladuarlwyddiant.cymru/apply/”]YMGEISIWCH RŴAN[/button]

Felly ble mae Wrecsam?

Mae Wrecsam yn lle gwych. Nid yw’n berffaith ac mae ganddo ei wendidau… fel bobman arall. Ond mae’n lle gwych.

Os nad oeddech chi’n gwybod, mae Wrecsam yng Ngogledd Cymru.. ar y ffin gyda Lloegr.

Diolch i gysylltiadau ffyrdd da, mae’n cymryd llai nag awr i deithio i Fanceinion a Lerpwl. Ac mae arfordir hyfryd Gogledd Cymru dafliad carreg i ffwrdd.

Mae gennym brifysgol, un o’r colegau addysg bellach gorau yn y DU, ac rydym yn gartref i rai o fusnesau mwyaf llwyddiannus Prydain – o frandiau byd-eang megis JCB i arweinwyr y farchnad, megis Moneypenny.

Mae gennym hefyd Safle Treftadaeth y Byd arbennig – Camlas a Thraphont Ddŵr Pontcysyllte.

Mold Road, Wrexham
Images of Wrexham FC Racecourse Ground on Mold Road, Wrexham *** Local Caption *** Contact: Mike Dean 07816 272721 mike@eyeimagery.co.uk Eileen Jackson 07773 991854 eileen@eyeimagery.co.uk www.eyeimagery.co.uk
Chirk is in Wrexham County Borough
Chirk near Wrexham in North East Wales
Ty Mawr Country Park near Cefn Mawr
Images of Ty Mawr Country Park. Cefn Mawr, Wrexham.
Swydd fydd yn cael effaith ar 135,000 o fywydau. Ai hon yw’r swydd i chi?
Trevor Basin
Pontcysyllte Aqueduct, World Heritage site in Wrexham
Swydd fydd yn cael effaith ar 135,000 o fywydau. Ai hon yw’r swydd i chi?
Chirk Aqueduct, views of canal boat and the railway and canal bridges
Swydd fydd yn cael effaith ar 135,000 o fywydau. Ai hon yw’r swydd i chi?
Eagles Meadow development at dusk
Swydd fydd yn cael effaith ar 135,000 o fywydau. Ai hon yw’r swydd i chi?
Gresford Colliery disaster Memorial pit head
Swydd fydd yn cael effaith ar 135,000 o fywydau. Ai hon yw’r swydd i chi?
Sculpture in Lord Street
Wrexham town centre scenes including miner steelworker sculpture, Guildhall and old library

Oes gennych chi’r sgiliau?

Felly…ydych chi’n barod i fod yn rhan o dîm arweiniol dynamig newydd yn Wrecsam, yn gweithio ar ran preswylwyr?

Dywedodd y Prif Weithredwr, Ian Bancroft: “Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â gwybodaeth a sgiliau gwych, wedi’u datblygu mewn sefydliad tebyg sy’n ymdrin â chwsmeriaid.

“Os mai chi yw’r unigolyn cywir, byddwch yn ymuno â gweithlu ymroddgar sy’n gweithio ar ran Wrecsam a’i phobl.

“Mae hon yn swydd allweddol a bydd y cyngor a’r cyhoedd yn disgwyl llawer ohonoch. Ond ni fyddwch ar eich pen eich hunan – byddwn yn cymryd cydgyfrifoldeb ac yn cynnig cefnogaeth gref i chi.

“I’r unigolyn cywir, mae hon yn swydd uwch reoli werthfawr tu hwnt mewn cyngor cyfeillgar sy’n edrych tua’r dyfodol.”

Oes gennych chi ddiddordeb? Ewch i ddysgu mwy am y swydd a gwnewch gais nawr.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://www.adeiladuarlwyddiant.cymru/apply/”]YMGEISIWCH RŴAN[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Draenio Pwll Stryt Las i'w Lanhau ac i Dynnu’r Pysgod Allan Draenio Pwll Stryt Las i’w Lanhau ac i Dynnu’r Pysgod Allan
Erthygl nesaf FOCUS Wales, SXSW ac Wythnos Lleoliad Annibynnol yn cydweithio ar gyfer sioe arbennig yn Wrecsam FOCUS Wales, SXSW ac Wythnos Lleoliad Annibynnol yn cydweithio ar gyfer sioe arbennig yn Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 21, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Guildhall
Arall

Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw

Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr

Awst 13, 2026
Water
ArallFideo

Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr

Awst 11, 2026
Mayor of Wrexham receiving a PSA screening test
ArallPobl a lle

Maer yn cefnogi digwyddiad sgrinio canser y prostad

Gorffennaf 28, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English