Bydd Gruff Rhys, prif leisydd un o fandiau enwocaf Cymru, Super Furry Animals, ynghyd â Neon Neon a enwebwyd gan Mercury, yn chwarae sioe band llawn arbennig yn The Live Rooms, Wrecsam ar ddydd Gwener, Rhagfyr 7.
Mae’r sioe yn dilyn rhyddhau Babelsberg yn gynharach eleni – pumed albwm unigol Gruff, a’i record gyntaf i’w ryddhau ar Recordiau Rough Trade ers y clasur Candylion yn 2007.
Recordiwyd y deg trac sydd ar yr albwm am y tro cyntaf yn gynnar yn 2016 mewn sesiwn carlamus o dridiau. Y band a gasglodd ar gyfer y recordiad hwn oedd ei ddrymiwr arferol, Kliph Scurlock (gynt o’r Flaming Lips) a’r aml-offerynwyr Stephen Black (Sweet Baboo) ac Osian Gwynedd.
Gwynedd.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Tros gyfnod y deugain munud neu fwy ar Babelsberg, mae Gruff yn llwyddo i gyfleu’n berffaith yr amseroedd cythryblus rydyn ni’n byw ynddyn nhw, a hynny gyda hiwmor, gras a melodi sydd wastad yn gofiadwy. Trwy gydol gyrfa sydd wedi goroesi tri degawd, dwy iaith, sawl prif fand ac eginfandiau, cydweithrediadau ac un dychymyg diderfyn, efallai mai Babelsberg ydy arlwy gorau Gruff hyd yn hyn.
Fel tae cyhoeddi albwm newydd ddim yn ddigon, gwelwyd Gruff Rhys yn ymddangos eleni am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ymylol Caeredin gyda chyfres o wyth sioe, lle gwerthwyd pob tocyn. Bydd hefyd yn teithio ledled UDA, Ewrop, a’r DU, cyn ymddangos yn Wrecsam gyda’i fand llawn ar ddydd Gwener, Rhagfyr 7fed.
Tocynnau ar werth trwy focuswales.com/tickets
Mae’r cyngor yn cefnogi FOCUS Wales, gan helpu i sefydlu’r Hwb Cymraeg – elfen Gymraeg yr ŵyl – dros y ddwy flynedd ddiwethaf, sy’n hyrwyddo’r Iaith a’r diwylliant Cymraeg i gynulleidfa ryngwladol.
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION