Erthygl Wadd Groundwork Gogledd Cymru
A hithau’n cael ei chynnal yn y Lleoliad yn y Parc, mae elusen leol Groundwork Gogledd Cymru yn edrych ymlaen at arddangos masnachwyr lleol Gogledd Cymru unwaith eto yn dilyn llwyddiant eu ffair fwyd yr haf diwethaf, pan ddaeth cannoedd o’r gymuned ynghyd i gefnogi busnesau lleol.
Bydd amrywiaeth wych o stondinau i’r sawl sy’n mynychu ymweld â nhw ar 29 Mehefin, yn nwyddau blasus wedi’u pobi, seidr a gwirodydd wedi’u cynhyrchu’n lleol, olew blodau haul cywasgedig, danteithion heb glwten, caws figan a mwy!
Mae Parc Gwledig Dyfroedd Alun wedi mynd o nerth i nerth
Meddai Amy Rutter, trefnydd yr ŵyl, “Mae pob Ffair Fwyd rydym wedi’u cynnal yma ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun wedi mynd o nerth i nerth, gan groesawu mwy o’r gymuned a’i busnesau gwych. Mae’n braf iawn gweld cymaint o bobl yn dod at ei gilydd drwy eu cariad am fwyd. Rydym ni’n edrych ymlaen yn fawr at groesawu pawb yn ôl eleni.”
Cynhelir Ffair Fwyd yr Haf rhwng 11am – 3pm ddydd Sadwrn 29 Mehefin, lle bydd modd i ymwelwyr alw heibio a phori drwy’r cynnyrch lleol. Bydd yno hefyd weithgareddau megis paentio wynebau ar gael i’r plant eu mwynhau yn ystod y digwyddiad. Gall ymwelwyr grwydro o amgylch y parc gwledig ar ôl ymweld â’r ffair, ac felly mae’n ddiwrnod gwych i’r teulu cyfan. Mae mynediad am ddim i Ffair Fwyd yr Haf, ac mae croeso i bawb, gan gynnwys cŵn. I ddysgu mwy am y digwyddiad, neu i gael cipolwg ar y stondinau fydd yno, ewch i’r dudalen digwyddiad Facebook YMA.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Mae Motorfest Wrecsam yn dychwelyd eto yn 2024: Campau Cyffrous, Tryciau Creaduriaid a Mwy!