Oeddech chi’n gwybod bod cynllun yng Nghymru sy’n cynnig pecyn o welliannau effeithlonrwydd ynni cartref am ddim?
Gallai hynny olygu boeler newydd, gwres canolog neu inswleiddio i helpu i’ch cadw chi a’ch teulu’n gynnes a gostwng eich biliau ynni ar yr un pryd.
Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.
Gweithredir y cynllun gan “Nyth – Gwneud Cymru’n Glyd” a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae wedi’i anelu at aelwydydd incwm isel a’r rheiny sy’n byw mewn ardaloedd difreintiedig ledled Wrecsam a Chymru.
Ond peidiwch â phoeni os nad ydych chi’n gymwys i gael gwelliannau ynni am ddim oherwydd maen nhw hefyd yn cynnig cyngor rhagorol ar gyfer gwneud arbedion.
Mae hwn yn gynllun effeithlonrwydd ynni gwych
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth: “Mae hwn yn gynllun effeithlonrwydd ynni gwych a dylai pobl fod yn gwneud y gorau o’r holl gefnogaeth sydd ar gael. Mae’r gwasanaeth yn rhad ac am ddim ac yn gyfrinachol a bydd yn helpu preswylwyr i gadw’n gynnes a lleihau eu biliau ynni ar yr un pryd.
I rai, bydd hyn yn rhyddhad wrth iddynt frwydro yn ystod misoedd y gaeaf i gadw eu teulu’n gynnes wrth ymdrechu i dalu biliau ynni felly gwnewch yr alwad a gweld pa help rydych chi’n gymwys amdano.”
Gallech fod yn gymwys i gael gwelliannau effeithlonrwydd ynni am ddim os:
- Rydych chi’n berchen ar eich cartref neu’n rhentu oddi wrth landlord preifat (nid y Cyngor na’r Gymdeithas Dai)
- Nid yw eich cartref yn ynni effeithlon ac mae’n ddrud i’w gynhesu
- Rydych chi neu rywun rydych chi’n byw gyda nhw yn derbyn budd-dal prawf modd NEU mae ganddynt gyflwr cronig anadlol, cylchrediad y gwaed neu iechyd meddwl ac incwm islaw trothwyon diffiniedig (mae gwybodaeth lawn am feini prawf iechyd ar gael yma)
Mae cartrefi ledled Cymru eisoes yn elwa o’r cynllun a gallai eich cartref chi fod y nesaf i elwa 🙂
Os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy gallwch edrych ar eu gwefan yn nyth.llyw.cymru neu roi galwad iddynt ar 0808 808 2244 (rhadffôn).
Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF