Rydym yn falch o gyhoeddi oherwydd llwyddiant y cynnig presennol o fasnachu am ddim yn ein Marchnad ar ddydd Llun ein bod yn gallu ymestyn y cynnig i ddiwedd mis Rhagfyr.
Ers i’r cyfnod masnachu am ddim gychwyn ar ddechrau mis Mehefin mae yna lawer o ddiddordeb wedi bod gan fasnachwyr lleol ac annibynnol ac mae nifer yr ymwelwyr â’r farchnad wedi cynyddu.
Mae’n bwysig cefnogi masnachwyr marchnad canol y ddinas
Dywedodd y Cyng Nigel Williams, Aelod Arweiniol yr Economi, “Lansiwyd y fenter hon gennym i helpu i gefnogi ein masnachwyr marchnad awyr agored lleol yn ogystal â chynyddu ein cynnig canol y ddinas ac mae wedi profi i fod yn llwyddiannus iawn.
“Mae masnachwyr wedi gwerthfawrogi’r cymorth yr ydym wedi’i gynnig ac mae ymwelwyr wedi gwerthfawrogi’r amrywiaeth o stondinau sydd bellach yn bresennol yng nghanol y ddinas bob dydd Llun.
“Mae’n bwysig ein bod yn parhau i gefnogi holl fasnachwyr canol y ddinas a bydd y cyfnod estynedig o fasnachu am ddim yn dod â mwy o ymwelwyr i weld dros eu hunain sut mae’r ddinas wedi newid a’r cymysgedd ardderchog o fasnachwyr annibynnol sydd gennym ni yma.
“Hoffwn ddiolch i’r holl gynghorwyr a’r swyddogion sydd wedi helpu a gweithio yn y cefndir i dyfu’r farchnad.”
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn masnachu, cysylltwch â wrexhammarkets@wrexham.gov.uk.
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen ‘Amgueddfa Dau Hanner’ newydd Wrecsam i dderbyn cyllid mawr gan Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch