Bydd becws, tŷ coffi a phantri newydd yn agor yn yr Orsedd Goch y penwythnos hwn wrth i Humble & Whole agor ei ddrysau ar ôl misoedd o adnewyddu.
Yn dilyn gwaith adnewyddu helaeth i’r Tŷ Peiriant yn yr Orsedd Goch, bydd Humble & Whole yn agor yn yr Orsedd Goch y penwythnos hwn, gan gynnig amrywiaeth o nwyddau wedi’u pobi gan gynnwys amrywiaeth o fara a danteithion melys.
Cafodd perchnogion y becws grant Cronfa Ffyniant Gyffredin: Gogledd Cymru ac maent wedi gweithio’n agos gyda’r tîm busnes yng Nghyngor Wrecsam i gael popeth yn ei le i’w helpu i gyflawni eu nodau a manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd busnes.
Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol yr Economi, Busnes a Thwristiaeth, a ymwelodd â’r becws yn ddiweddar: “Rydw i mor falch bod Humble & Whole wedi gallu manteisio ar grant y Gronfa Ffyniant Gyffredin a’u bod wedi gallu gweithio mor agos gyda’r tîm yng Nghyngor Wrecsam. Mae’r Orsedd Goch yn gartref i nifer o fusnesau llwyddiannus, sy’n cyfrannu at gymuned ffyniannus ac mae Humble & Whole yn ychwanegiad i’w groesawu.”
Dywedodd Rebecca Griffiths, cyfarwyddwr Humble & Whole: “Roeddem wrth ein bodd i groesawu’r Cynghorydd Nigel Williams a rhannu ein gweledigaeth ar gyfer becws Humble & Whole. Rydym yn hynod gyffrous i gyhoeddi y byddwn yn agor ein drysau i’r cyhoedd yn swyddogol ddydd Sadwrn, Ebrill 5, am 10am. Rydym yn angerddol am greu gofod croesawgar yn yr Orsedd Goch lle gall pobl fwynhau nwyddau wedi’u pobi lleol o ansawdd uchel, o’n surdoes nodweddiadol i’n brownis anhygoel a’n cwcis surdoes newydd cyffrous. Fel menter gymdeithasol, rydym hefyd wedi ymrwymo’n llwyr i gefnogi ein cymuned, ac ni allwn aros i ddathlu ein hagoriad gyda phawb a dod yn rhan fywiog o’r Orsedd Goch.”
Swyddi a gyrfaoedd – gweithiwch i ni a bod yn rhan o’r stori.