Mae tuedd sydd ar gynnydd ymysg yfwyr dan oed i ddefnyddio pasbortau a thrwyddedau gyrru eu ffrindiau neu deulu i gael mynd mewn i dafarndai a chlybiau yn cael ei daclo mewn partneriaeth rhyngom ni a pherchnogion bar cyfrifol yng nghanol y dref.
Mae’n swnio’n syniad da i gychwyn ond mae ceisio cael gafael ar alcohol trwy ddefnyddio dogfen adnabod rhywun arall yn drosedd ddifrifol, fel y mae benthyg y ddogfen honno at y diben hwnnw. Gallai collfarn gael effaith ddifrifol iawn ar gynlluniau pobl ifanc ar gychwyn eu bywyd sydd eisiau gyrfa a theithio.
Ers mis Ionawr, mae unrhyw gerdyn adnabod sy’n cael ei gynnig fel prawf oedran sydd yn berchen i unrhyw un arall yn cael ei gadw a’i anfon at ein swyddogion gwarchod y cyhoedd a fydd yn ei gadw’n ddiogel am ychydig wythnosau nes ei fod yn cael ei hawlio.
I hawlio’r pasbortau neu drwyddedau gyrru yn ôl, mae’n rhaid i’r perchennog a’r unigolyn oedd yn ei ddefnyddio fynychu cyfarfod anffurfiol lle bydd holl oblygiadau twyll hunaniaeth yn cael ei egluro. Dim ond ar ddiwedd y sesiwn hon y caiff y ddogfen adnabod ei dychwelyd. Mae’n debyg i gwrs ymwybyddiaeth o gyflymder.
“Efallai y gwrthodir dogfennau newydd”
Os na fydd y ddogfen yn cael ei hawlio fe gaiff ei hanfon yn ôl at yr awdurdod dyroddi – DVLA neu Swyddfa Basbort Ei Mawrhydi a fydd yn ei ddinistrio. Yr unig opsiwn i’r perchennog fydd talu am un arall. Caiff y swyddfa basbort a’r DVLA wybod am yr amgylchiadau ac fe allent wrthod rhoi dogfennau eraill.
Mae yna risg gwirioneddol wedyn pan y gwneir cais am basbort neu drwydded yrru newydd y gallai gael ei wrthod a byddai unrhyw sy’n bwriadu mynd ar wyliau yn cael sioc fawr wrth sylwi fod yna gyfyngder ar eu gallu i deithio.
“Mae’n ymddangos ei fod yn gweithio”
Y syniad y tu ôl i hyn yw lleihau nifer y bobl sydd yn yfed dan oed, ac mae 75 o gardiau adnabod wedi cael eu cadw ers diwedd mis Ionawr, felly mae’n ymddangos ei fod yn gweithio. Dim ond tri sydd wedi cael eu hawlio yn ôl hyd yn hyn ac mae’r gweddill wedi cael eu hanfon yn ôl at yr awdurdod dyroddi – gallai’r goblygiadau i’r perchennog fod yn ddifrifol.
Gofynnir i rieni wirio pasbort a thrwydded yrru eu plentyn – ydyn nhw dal ganddynt? Os nad ydynt, ydi un neu’r ddwy ddogfen wedi cael eu cyflwyno am eu bod yn cael eu defnyddio trwy dwyll? Os ydych chi’n amau mai dyma sydd wedi digwydd, dylech gysylltu â safonau masnach trwy ffonio 01978 297455.
“Noson i’w chofio neu anghofio?”
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae’r neges yn glir, peidiwch â benthyg cerdyn adnabod – fe allech golli eich pasbort neu drwydded yn gyfan gwbl ac fe allent wrthod rhoi rhai newydd i chi am eu bod wedi cael eu defnyddio trwy dwyll. Ydi hi’n risg werth ei chymryd?”
“Mae’r gyfraith yn glir hefyd, mae yno i amddiffyn pobl ifanc rhag perygl yfed dan oed – gallai noson i’w chofio yn hawdd droi yn noson i’w anghofio os bydd person ifanc yn meddwi ac yn cael eu gwahanu oddi wrth eu ffrindiau, gallent fod yn ddiamddiffyn a gallai’r goblygiadau fod yn ddifrifol iawn. Fe anogir rhieni a gofalwyr i gadw llygad am unrhyw ddogfennau pwysig sydd yn mynd ar goll a allai gael eu cadw gan staff drws gwyliadwrus”.
COFRESTRWCH AM FILIAU DI-BAPUR