Bydd gwaith i lanhau ffordd gyswllt Llan y Pwll yn dechrau dydd Mawrth (29 Mai) ac mae disgwyl i’r gwaith bara pythefnos.

Byddwn yn ysgubo’r ardal, codi sbwriel, glanhau’r cwteri a chynnal gwaith atgyweirio lle bo’r angen.

EWCH YN WYRDD – DEWISWCH FILIAU TRETH CYNGOR DI-BAPUR…

Byddwn yn gwneud y gwaith fesul cam rhwng cylchfannau JCB a chyfnewidfa Gresffordd gyda gwaith yn digwydd yn ystod y dydd a gyda’r nos am gyfnod o bythefnos.

Yn ystod y cyfnod bydd ffyrdd ar gau, a gall hyn achosi anghyfleustra, felly cynghorir i chi adael mewn da bryd ar gyfer eich taith.

COFRESTRWCH AM FILIAU DI-BAPUR