Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Fyddech chi’n talu 20c a £1 i helpu i ariannu’r gwasanaethau hyn? Darllenwch fwy…
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Cymerwch ran a helpwch i wneud yr Eisteddfod eleni yn llwyddiant ysgubol!
Cymerwch ran a helpwch i wneud yr Eisteddfod eleni yn llwyddiant ysgubol!
Busnes ac addysg Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
barbecue cooking in warm weather
Cynllunio barbeciw yn yr haul? Gwych, ond cofiwch ailgylchu
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Arolwg Cyflwr Gofalu 2025
Arolwg Cyflwr Gofalu 2025
Arall
Ageing Well event at Ty Pawb
Wrecsam yn dathlu digwyddiad Heneiddio’n Dda llwyddiannus (26 Mehefin)
Digwyddiadau Pobl a lle
wrexham library
Seren yr 80au yn Llyfrgell Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Fyddech chi’n talu 20c a £1 i helpu i ariannu’r gwasanaethau hyn? Darllenwch fwy…
Y cyngor

Fyddech chi’n talu 20c a £1 i helpu i ariannu’r gwasanaethau hyn? Darllenwch fwy…

Diweddarwyd diwethaf: 2017/12/01 at 11:47 AM
Rhannu
Darllen 4 funud
Wrexham Council News
RHANNU

NODWCH – Mae’r ymgynghoriad hon wedi ei gau (01.12.17)

Cynnwys
Codi tâl o 20c i ddefnyddio’r toiledau cyhoeddus yn Nhrefor, Y Waun a FroncysyllteCodi £1 am ofal plant mewn clybiau brecwast cyn 8.20am

A ddylem ni godi tâl o 20c y tro ar bobl i ddefnyddio’r toiledau cyhoeddus yn Nhrefor, Y Waun a Froncysyllte?

A ddylid gofyn i rieni sy’n anfon eu plant i glybiau brecwast yn yr ysgol cyn 8.20am i dalu £1 y dydd er mwyn helpu i gynnal y gwasanaeth?

Os oes gennych chi farn, yna mae angen i chi adael i ni wybod.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Mae’n rhaid i Gyngor Wrecsam arbed £13 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf.

Ond cyn i ni benderfynu ble i wneud yr arbedion, rydym eisiau gwybod beth yw barn pobl am y gwahanol opsiynau.

Rydym yn ymgynghori ar wahanol gynigion, ac rydym wedi rhannu’r rhain yn ôl adrannau.

Yn yr erthygl hon, rydym am ganolbwyntio ar y syniadau a gyflwynwyd gan yr Adran Dai a’r Economi.

Rydym eisiau eich safbwyntiau ar ddau gynnig…

DYWEDWCH WRTHYM SUT RYDYCH CHI’N MEDDWL Y DYLEM NI ARBED £13M. LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN.

Codi tâl o 20c i ddefnyddio’r toiledau cyhoeddus yn Nhrefor, Y Waun a Froncysyllte

Mae’r cyngor yn rheoli nifer o doiledau cyhoeddus ledled y fwrdeistref sirol.

Rydym yn cynnig codi tâl o 20c mewn toiledau cyhoeddus yn Nhrefor, Y Waun a Froncysyllte er mwyn talu am y gost o lanhau a staffio.

Rydym yn amcangyfrif y gallai hyn greu £5,000 y flwyddyn yn ychwanegol er mwyn ein helpu i reoli’r cyfleusterau.

Dywedwch wrthym beth yw eich barn drwy lenwi’r holiadur.

Cyngor Wrecsam

Codi £1 am ofal plant mewn clybiau brecwast cyn 8.20am

Mae’r cyngor yn rhedeg cynllun brecwast mewn 50 o ysgolion cynradd. Y bwriad yw darparu brecwast iach am ddim i blant cyn eu bod yn dechrau’r diwrnod ysgol.

Cost y gwasanaeth ar hyn o bryd yw £636,000.

Er mai dim ond hanner awr sydd ei angen arnom (8.20am-8.50am) i ddarparu brecwast, caiff staff eu cyflogi am awr yn y bore – gan ddarparu gofal plant am ddim i bob pwrpas am hyd at hanner awr (7.50am-8.20am) cyn i’r sesiwn brecwast ddechrau.

Rydym yn cynnig cyflwyno tâl o £1 y diwrnod y plentyn ar rieni sy’n awyddus i fanteisio ar yr elfen yma’n ymwneud â gofal plant. Felly os yw plentyn yn cyrraedd rhwng 7.50am a 8.20am, fe fyddai yna dâl o £1.

Ond os yw plentyn yn cyrraedd ar ôl 8.20am, ni fyddai unrhyw dâl.

Rydym yn credu y gallai hyn greu £106,000 ychwanegol yn 2018/19 a £52,000 mwy yn 2019/20.

Byddai’r arian ychwanegol yn gymorth i wneud y gwasanaeth yn gynaliadwy a’i wneud yn llai costus i’r cyngor ei redeg.

Beth yw eich barn chi?

Drwy gymryd rhan yn ein hymgynghoriad, fe all eich cymydog gael dweud ei dweud. Ac fe all y dyn sy’n byw i lawr y stryd gael dweud ei ddweud.

Ac fe allwch chi gael dweud eich dweud. Felly peidiwch â cholli’r cyfle.

Llenwch ein holiadur rŵan, a sicrhewch eich bod yn dweud eich dweud am yr arbedion arfaethedig i’r gyllideb.

DWEUD EICH DWEUD COFRESTRU

Rhannu
Erthygl flaenorol Acoladau Cymraeg i ysgolion cynradd Acoladau Cymraeg i ysgolion cynradd
Erthygl nesaf Child reading Caneuon, penillion, crefftau a siwmperi Nadolig

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Cymerwch ran a helpwch i wneud yr Eisteddfod eleni yn llwyddiant ysgubol!
Cymerwch ran a helpwch i wneud yr Eisteddfod eleni yn llwyddiant ysgubol!
Busnes ac addysg Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 11, 2025
barbecue cooking in warm weather
Cynllunio barbeciw yn yr haul? Gwych, ond cofiwch ailgylchu
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Gorffennaf 10, 2025
Arolwg Cyflwr Gofalu 2025
Arolwg Cyflwr Gofalu 2025
Arall Gorffennaf 10, 2025
Ageing Well event at Ty Pawb
Wrecsam yn dathlu digwyddiad Heneiddio’n Dda llwyddiannus (26 Mehefin)
Digwyddiadau Pobl a lle Gorffennaf 10, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cymerwch ran a helpwch i wneud yr Eisteddfod eleni yn llwyddiant ysgubol!
Busnes ac addysgDigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Cymerwch ran a helpwch i wneud yr Eisteddfod eleni yn llwyddiant ysgubol!

Gorffennaf 11, 2025
Waste Collections
Y cyngor

Casgliadau biniau ddydd Gwener, Gorffennaf 11

Gorffennaf 9, 2025
9000
Pobl a lleY cyngor

Wrecsam yn dathlu plannu dros 9000 o goed newydd

Gorffennaf 4, 2025
Ty Mawr
FideoPobl a lleY cyngor

Parciau gwledig Wrecsam o’r awyr

Gorffennaf 4, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English