Estynnwch y carped coch… dyma eich gwahoddiad i ŵyl ffilm!
Mae’n rhad ac am ddim ar 28 Mehefin, 5-7pm yng Nghanolfan Cuncliffe, Ffordd Rhosddu, Wrecsam.
Dyma eich cyfle i weld saith ffilm ryngwladol, gan gynnwys premiere y byd We Leave our Labels at the Door! Dyma ffilm wedi ei chreu gan SWS ar y cyd gyda chwmni ffilm rhyngwladol.
CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .
Grŵp o bobl yw SWS (Standard of Wrexham Services) sy’n cydweithio gyda, ac yn cael eu cyfeirio atynt, fel tîm gofal cymdeithasol i oedolion y cyngor.,
Bydd y ffilm hon, ynghyd â’r chwe ffilm arall, yn ymddangos am y tro cyntaf ar y noson. Maent yn archwilio’r pynciau anabledd a rhywioldeb. Cafodd ei chyd-greu gyda’r Iris Film Prize, cwmni ffilm rhyngwladol sy’n arbenigo mewn ffilmiau am rywioldeb a phroblemau LBGTQAI.
Bydd lluniaeth ar gael, felly os hoffech ymuno â ni ar y noson, rhowch wybod ar 01978 292066.
Caiff unrhyw gyfraniad i’r grŵp ei werthfawrogi’n fawr a bydd raffl ar y noson os ydych am geisio eich lwc i ennill rhai o’r gwobrau gwych sydd ar gael.
Gallwch ddarganfod mwy am SWS yma.
Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb
DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB