Erthygl gwadd – CThEM
Mae Cyllid a Thollau EM (CThEM) yn atgoffa teuluoedd yng Nghymru sy’n gweithio y gallant ddefnyddio’r cynllun Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth i helpu talu am gost gofal plant dros yr haf.
Gellir defnyddio Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth – sef atodiad gofal plant ar gyfer teuluoedd sy’n gweithio – i helpu talu am glybiau gwyliau, gwarchodwyr plant neu weithgareddau chwaraeon sydd wedi’u hachredu – bydd hyn yn rhoi tawelwch meddwl i rieni a gofalwyr bod eu plant yn cael hwyl yn ystod gwyliau’r haf, a gall arbed arian iddynt hefyd.
Mae’r cynllun Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth ar gael ar gyfer plant hyd at 11 oed, neu 17 oed os oes gan y plentyn anabledd. Ac am bob £8 a roddir mewn cyfrif, bydd teuluoedd yn cael taliad atodol o £2 gan y llywodraeth, hyd at uchafswm o £500 y plentyn bob tri mis, neu £1,000 os oes gan y plentyn anabledd.
Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.
Gall rhieni a gofalwyr wirio a ydynt yn gymwys a chofrestru ar gyfer Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth drwy GOV.UK. Gallant wneud cais am gyfrif ar unrhyw adeg a dechrau ei ddefnyddio ar unwaith Drwy dalu arian i mewn i’w cyfrifon, gall teuluoedd elwa o’r 20% o atodiad a defnyddio’r arian i dalu am gost gofal plant pan fydd angen iddynt wneud hynny, er enghraifft yn ystod gwyliau’r haf.
Dywedodd Myrtle Lloyd, Cyfarwyddwr Cyffredinol CThEM ar gyfer Gwasanaethau i Gwsmeriaid:
“Rydym eisiau helpu plant i fod yn weithgar yr haf hwn, p’un a ydynt yn mynd i glybiau gwyliau haf neu i warchodwr plant. Bydd atodiad gofal plant yn cyfrannu’n sylweddol tuag at helpu rhieni i gynllunio a thalu am weithgareddau yn yr haf a chadw’u plant yn hapus ac yn iach.
“I gael rhagor o wybodaeth, chwiliwch am ‘tax-free childcare’ ar GOV.UK.”
Ym mis Mawrth 2021, defnyddiodd 9,530 o deuluoedd yng Nghymru sy’n gweithio eu cyfrif. Ac yn yr un mis, talodd CThEM dros £33 miliwn mewn taliadau atodol a rannwyd ymhlith mwy na 282,000 o deuluoedd ar draws y DU.
Mae Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth hefyd ar gael i blant cyn oed ysgol sy’n mynychu meithrinfeydd, gwarchodwyr plant neu ddarparwyr gofal plant eraill. Yn aml bydd gan deuluoedd sydd â phlant iau gostau gofal plant uwch na theuluoedd sydd â phlant hŷn, felly mae’r cynilion sy’n rhydd o dreth wir yn gallu gwneud gwahaniaeth.
Gall darparwyr gofal plant hefyd gofrestru ar gyfer cyfrif darparwr gofal plant trwy GOV.UK i gael taliadau gan rieni a gofalwyr trwy’r cynllun.
Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF