Bre

Erthygl gwadd – CThEM

Gyda phythefnos i fynd cyn y dyddiad cau, mae busnesau bach a chanolig yng Nghymru yn cael eu hannog i wneud cais am gyllid i’w helpu i addasu i reolau tollau a threthi newydd wrth fasnachu gyda’r UE.

Mae’r Gronfa Gymorth Brexit werth £20m, sy’n cau ar 30 Mehefin, yn galluogi busnesau sy’n masnachu gyda’r UE i gael gafael ar hyd at £2,000 o gyllid ar gyfer cymorth ymarferol gan gynnwys hyfforddiant a chyngor proffesiynol ar dollau, rheolau o ran tarddiad a phrosesau TAW newydd.

Ers lansio ym mis Mawrth, mae mwy na 12,000 o fusnesau ledled y DU wedi cofrestru ar gyfer y gronfa. Yng Nghymru, mae 99 o fusnesau wedi cyflwyno ceisiadau, gyda chyfanswm o £149,221 mewn cyllid wedi’i geisio amdano hyd yn hyn.

Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.

Dywedodd Katherine Green a Sophie Dean, Cyfarwyddwyr Cyffredinol, Ffiniau a Masnach, Cyllid a Thollau EM (CThEM): “Mae gan fusnesau llai sy’n masnachu gyda’r UE rôl hanfodol yn ein heconomi ac rydym yn deall y gallent fod wedi profi amser mwy heriol na busnesau mwy wrth addasu i newidiadau. Rydym yn annog busnesau bach a chanolig, y mae rheolau mewnforio ac allforio newydd yn effeithio arnynt, i wneud cais am gyllid heddiw.”

I fod yn gymwys ar gyfer y grant, mae’n rhaid i fusnesau beidio â bod â mwy na 500 o gyflogeion na throsiant dros £100m. Mae’n rhaid iddynt fewnforio neu allforio nwyddau rhwng Prydain Fawr a’r UE yn unig, neu symud nwyddau rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon. Os yw busnesau eisoes yn mewnforio neu’n allforio nwyddau i wlad nad yw’n rhan o’r UE ac oddi yno, nid ydynt yn gymwys.

Mae rhagor o wybodaeth am y gronfa a sut i wneud cais ar GOV.UK.

Yn ogystal â’r cyllid, gall busnesau bach a chanolig gael gafael ar gyngor a chefnogaeth arbenigol:

Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fusnesau sy’n symud nwyddau rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon drwy’r Gwasanaeth Cymorth i Fasnachwyr.

😷 Mae’r cyfyngiadau yng Nghymru’n llacio’n raddol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall beth gewch chi ei wneud a beth na chewch chi ei wneud.👈

Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF