Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gall CThEM helpu gyda chost gweithgareddau plant yn ystod gwyliau’r haf
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Gall CThEM helpu gyda chost gweithgareddau plant yn ystod gwyliau’r haf
ArallPobl a lle

Gall CThEM helpu gyda chost gweithgareddau plant yn ystod gwyliau’r haf

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 16, 2021 9:48 am
Rhannu
Darllen 4 funud
HMRC
RHANNU

Erthygl gwadd – CThEM

Mae Cyllid a Thollau EM (CThEM) yn atgoffa teuluoedd yng Nghymru sy’n gweithio y gallant ddefnyddio’r cynllun Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth i helpu talu am gost gofal plant dros yr haf.

Gellir defnyddio Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth – sef atodiad gofal plant ar gyfer teuluoedd sy’n gweithio – i helpu talu am glybiau gwyliau, gwarchodwyr plant neu weithgareddau chwaraeon sydd wedi’u hachredu – bydd hyn yn rhoi tawelwch meddwl i rieni a gofalwyr bod eu plant yn cael hwyl yn ystod gwyliau’r haf, a gall arbed arian iddynt hefyd.

Mae’r cynllun Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth ar gael ar gyfer plant hyd at 11 oed, neu 17 oed os oes gan y plentyn anabledd. Ac am bob £8 a roddir mewn cyfrif, bydd teuluoedd yn cael taliad atodol o £2 gan y llywodraeth, hyd at uchafswm o £500 y plentyn bob tri mis, neu £1,000 os oes gan y plentyn anabledd.

Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.

Gall rhieni a gofalwyr wirio a ydynt yn gymwys a chofrestru ar gyfer Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth drwy GOV.UK. Gallant wneud cais am gyfrif ar unrhyw adeg a dechrau ei ddefnyddio ar unwaith Drwy dalu arian i mewn i’w cyfrifon, gall teuluoedd elwa o’r 20% o atodiad a defnyddio’r arian i dalu am gost gofal plant pan fydd angen iddynt wneud hynny, er enghraifft yn ystod gwyliau’r haf.

Dywedodd Myrtle Lloyd, Cyfarwyddwr Cyffredinol CThEM ar gyfer Gwasanaethau i Gwsmeriaid:

“Rydym eisiau helpu plant i fod yn weithgar yr haf hwn, p’un a ydynt yn mynd i glybiau gwyliau haf neu i warchodwr plant. Bydd atodiad gofal plant yn cyfrannu’n sylweddol tuag at helpu rhieni i gynllunio a thalu am weithgareddau yn yr haf a chadw’u plant yn hapus ac yn iach.

“I gael rhagor o wybodaeth, chwiliwch am ‘tax-free childcare’ ar GOV.UK.”

Ym mis Mawrth 2021, defnyddiodd 9,530 o deuluoedd yng Nghymru sy’n gweithio eu cyfrif. Ac yn yr un mis, talodd CThEM dros £33 miliwn mewn taliadau atodol a rannwyd ymhlith mwy na 282,000 o deuluoedd ar draws y DU.

Mae Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth hefyd ar gael i blant cyn oed ysgol sy’n mynychu meithrinfeydd, gwarchodwyr plant neu ddarparwyr gofal plant eraill. Yn aml bydd gan deuluoedd sydd â phlant iau gostau gofal plant uwch na theuluoedd sydd â phlant hŷn, felly mae’r cynilion sy’n rhydd o dreth wir yn gallu gwneud gwahaniaeth.

Gall darparwyr gofal plant hefyd gofrestru ar gyfer cyfrif darparwr gofal plant trwy GOV.UK i gael taliadau gan rieni a gofalwyr trwy’r cynllun.

???? Mae’r cyfyngiadau yng Nghymru’n llacio’n raddol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall beth gewch chi ei wneud a beth na chewch chi ei wneud.????

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://llyw.cymru/cyfyngiadau-cyfredol “] Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Mae’n Bythefnos Ymwybyddiaeth Sgamiau… does dim rhaid i chi ddelio â sgamiau ar eich pen eich hun Mae’n Bythefnos Ymwybyddiaeth Sgamiau… does dim rhaid i chi ddelio â sgamiau ar eich pen eich hun
Erthygl nesaf Bre Busnesau bach yng Nghymru yn cael eu hannog i wneud cais am gyllid o Gronfa Gymorth Brexit cyn y dyddiad cau ar 30 Mehefin

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Y cyngor Digwyddiadau Pobl a lle
Hydref 26, 2026
All Saints School fundraising activities
Disgyblion Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn rhedeg, yn pobi ac yn gwneud gwahaniaeth at achos da
Pobl a lle Busnes ac addysg
Hydref 26, 2026
Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

National Adoption Week 2026
Y cyngorPobl a lle

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru

Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Pobl a lleDigwyddiadau

Allech chi fod yn gynghorydd?

Hydref 22, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English