Dechreuodd Pythefnos Ymwybyddiaeth o Sgamiau Cyngor ar Bopeth ddydd Llun, 14 Mehefin, a’r bwriad yw rhoi sgiliau a hyder i bobl allu adnabod sgamiau, rhannu eu profiadau a gweithredu trwy roi gwybod am unrhyw weithgareddau amheus.

Felly, dyma rywfaint o wybodaeth i’ch helpu i fod yn #YmwybodolOSgamiau

Adnabod sgamiau

Mae Cyngor ar Bopeth am roi’r wybodaeth fydd ei hangen arnoch i adnabod gwahanol sgamiau a dangos i chi sut i stopio a gofyn am gyngor am beth i’w wneud nesaf, os ydych yn credu eich bod yn cael eich targedu.

Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.

Cofiwch gadw llygad am arwyddion sgamiau:

➡️Os yw’n ymddangos yn rhy dda i fod yn wir
➡️Os yw’n annisgwyl
➡️Os ydych chi’n cael eich annog i ymateb neu dalu
➡️Rywbeth ar frys neu mewn ffordd anarferol
➡️Os gofynnwyd i chi roi gwybodaeth bersonol

Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael ar eu gwefan.

Pa mor ymwybodol o sgamiau ydych chi?

Mae cwis byr wedi’i lunio er mwyn i chi brofi eich gallu i adnabod sgiâm…rhowch gynnig arni a gweld sut hwyl gewch chi.

Cyngor cyffredinol ar sgamiau

Gellir cael Cyngor i Ddefnyddwyr gan Wasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth. Gellir cysylltu â nhw ar 0808 223 1144 (Cymraeg) neu 0808 223 1133 (Saesneg).

Adrodd am drosedd seiber

Os ydych chi’n credu eich bod wedi bod yn ddioddefwr sgâm neu drosedd seiber, dylech adrodd am hyn i Action Fraud drwy eu gwefan neu drwy ffonio 0300 123 2040.

Action Fraud yw’r Canolfan Cenedlaethol Adrodd am Sgamiau a Throsedd Seiber yn y DU.

😷 Mae’r cyfyngiadau yng Nghymru’n llacio’n raddol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall beth gewch chi ei wneud a beth na chewch chi ei wneud.👈

Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF