Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gall ein dewisiadau bach helpu i wneud gwahaniaeth
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Gall ein dewisiadau bach helpu i wneud gwahaniaeth
Pobl a lleBusnes ac addysg

Gall ein dewisiadau bach helpu i wneud gwahaniaeth

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 24, 2023 1:40 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Climate Action Wales small choices make a difference
RHANNU

Mae Gweithredu ar Newid Hinsawdd yn ceisio creu Cymru sy’n gryfach, gwyrddach a thecach drwy ddangos sut mae ‘newidiadau bach yn cyfrif’.

Cynnwys
  • Dewisiadau ynni gwyrdd
  • Dewisiadau cludiant gwyrdd
  • Dewisiadau dyddiol gwyrdd

Gyda dros dair miliwn ohonom yng Nghymru, ni all neb wneud popeth ar eu pen eu hunain i fynd i’r afael â newid hinsawdd, ond fe all pawb wneud rhywbeth.

Mae yna gamau syml dyddiol y gallwn ddechrau gyda nhw i leihau ein heffaith ar y blaned.

Dewisiadau ynni gwyrdd

Mae yna lawer o bethau y gallwch eu gwneud i leihau’r defnydd o ynni a lleihau allyriadau carbon gan gynnwys:

  • Gosod thermostat eich ystafell 1°C yn is na’r arfer. Gallai hyn leihau eich biliau gwresogi hyd at 10%. Gallwch ychwanegu haen o ddillad thermol i’ch cadw chi’n gynnes.
  • Lleihau tymheredd llif eich boeler. Mae nifer o foeleri wedi eu gosod i gynhesu dŵr i 75-80°C. Os oes gennych foeler cyfunol dylai 60°C fod yn ddigon cynnes. Gallai gwneud hyn arbed rhwng 8 a 13% ar eich bil nwy.
  • Rhoi cynnig ar awyr sychu. Gall defnyddio hors ddillad yn hytrach na pheiriant sychu dillad leihau eich defnydd o ynni yn sylweddol, lleihau eich biliau a hyd yn oed ymestyn oes eich dillad. Sicrhewch nad ydych yn sychu eich dillad ar reiddiaduron gan y gall hyn achosi llwydni, a dim ond os y gallwch agor eich ffenestri y dylech sychu eich dillad dan do. Os y gallwch sychu eich dillad ar y lein ddillad y tu allan yna dyna’r dewis gorau.
  • Atal drafft. Sicrhewch eich bod wedi atal drafft o unrhyw fylchau, er enghraifft o amgylch ffenestri neu o dan ddrysau fel nad oes gwres yn dianc.
Gall ein dewisiadau bach helpu i wneud gwahaniaeth

Dewisiadau cludiant gwyrdd

Gall gwneud newidiadau i sut rydym yn teithio helpu i leihau ein heffaith ar y blaned. Mae newidiadau y gallwn ni eu gwneud yn cynnwys:

  • Dod yn fwy egnïol Mae dewis ffyrdd mwy egnïol o deithio, fel cerdded, beicio neu fynd ar olwynion nid yn unig yn ymarfer corff gwych ond mae’n ddewis mwy fforddiadwy, gwyrdd a chynaliadwy o ran cludiant.
  • Defnyddio mwy ar gludiant cyhoeddus. Dewiswch ddulliau mwy gwyrdd o ran cludiant, fel bysiau neu drenau i osgoi tagfeydd traffig a lleihau’r nifer o geir sydd ar y ffordd. Os nad yw cludiant cyhoeddus yn ddewis i chi, rhowch gynnig ar rannu car.
  • Cerdded i’r ysgol. Os ydych yn byw’n ddigon agos, a’ch bod yn gallu gwneud hynny, mae cerdded i’r ysgol yn ffordd wych o gadw’n heini, treulio amser gyda’ch gilydd ac osgoi’r straen o fynd i’r ysgol yn y car.
  • Osgoi teithio diangen. Manteisiwch ar dechnoleg a threfnwch gyfarfodydd neu gynadleddau rhithiol pan allwch wneud hynny. Bydd chwilio am ffyrdd o deithio llai yn lleihau allyriadau niweidiol.
Gall ein dewisiadau bach helpu i wneud gwahaniaeth

Dewisiadau dyddiol gwyrdd

Bydd gwneud dewisiadau dyddiol gwyrdd yn lleihau faint o allyriadau carbon niweidiol sy’n cael eu rhyddhau i’r atmosffer, sef prif sbardun newid hinsawdd. Gall y dewisiadau hyn fod yn bethau fel:

  • Defnyddio llai o ddŵr. Mae yna nifer o ffyrdd syml o arbed dŵr – cymryd cawodydd byrrach, diffodd y tapiau a gosod dyfeisiau arbed dŵr.
  • Trwsio ac ailddefnyddio. Gall y rhan fwyaf o bethau gael eu trwsio – gennych chi neu weithiwr proffesiynol neu gaffi trwsio. Pan nad ydych angen rhywbeth mwyach, rhowch yr eitem i rywun, gwerthwch yr eitem ar-lein, uwchgylchwch yr eitem neu fynd ag ef i gyfleuster ailddefnyddio. Gallwch hefyd roi cynnig ar rentu, benthyg neu rannu eitemau nad ydych ond yn eu defnyddio’n achlysurol.

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd a Chefnogwr Hinsawdd: “Nid dim ond problem ar gyfer y dyfodol yw newid hinsawdd, mae’n broblem sy’n fater o frys a sydd angen mynd i’r afael â hi’n gyflym ac mae’n eglur fod angen ymdrech fawr gennym ni i gyd i newid pethau. Gall y newidiadau bach rydym yn eu gwneud yn ein bywydau dyddiol fod o gymorth mawr i wneud gwahaniaeth.”

I gael rhagor o wybodaeth, awgrymiadau a chyngor ewch i dudalen we Gweithredu ar Newid Hinsawdd.

Mae’n Fis Rhyngwladol Cerdded i’r Ysgol – ydych chi’n cymryd rhan? – Newyddion Cyngor Wrecsam

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

TAGGED:climateenergygweithredu
Rhannu
Erthygl flaenorol Help a Ranger Day at Alyn Waters Country Park Tarwch olwg ar ein Diwrnod Helpu Ceidwad cyntaf yn Nyfroedd Alun
Erthygl nesaf Free Swimming Nofio am Ddim dros Hanner Tymor yr Hydref

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Minera Roof Trusses
Busnes ac addysg

Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi

Awst 28, 2026
Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English