Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gall hon fod y swydd bwysicaf i chi ei gwneud erioed – ymuno â’r Tîm Olrhain Cyswllt.
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Gall hon fod y swydd bwysicaf i chi ei gwneud erioed – ymuno â’r Tîm Olrhain Cyswllt.
Pobl a lleY cyngor

Gall hon fod y swydd bwysicaf i chi ei gwneud erioed – ymuno â’r Tîm Olrhain Cyswllt.

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 15, 2020 5:16 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Gall hon fod y swydd bwysicaf i chi ei gwneud erioed - ymuno â'r Tîm Olrhain Cyswllt.
RHANNU

Mae Cyngor Sir y Fflint, fel y cyflogwr arweiniol ar gyfer Gwasanaeth newydd Olrhain Cysylltiadau Gogledd Cymru, ar hyn o bryd yn recriwtio timau olrhain i gael eu halinio â bob un o chwe chyngor Gogledd Cymru.

Cynnwys
  • Drwy fod yn rhan o’r Tîm Olrhain Cyswllt rydych yn chwarae eich rhan
  • Trosolwg o Brofi, Olrhain, Diogelu

Mae’r rolau hanfodol hyn wedi eu datblygu fel rhan o raglen Profi, Olrhain a Diogelu Iechyd Cyhoeddus Cymru a bydd yn caniatáu i chi chwarae eich rhan ymhellach wrth drechu’r pandemig.

Byddwch yn cael eich alinio i un o chwe awdurdod lleol Gogledd Cymru, ac angen delio gydag achosion ar draws Gogledd Cymru os bydd yna achos neu gynnydd. Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol i’r sawl sy’n gweithio gyda chydweithwyr yn Ynys Môn a Gwynedd.

Mae prif nodweddion a chyfrifoldebau’r rolau yn cynnwys:

  • Cynnal cyfweliad cyntaf achosion COVID-19 positif ac/neu gysylltiadau dros y ffôn
  • Nodi a dilyn cysylltiadau a darparu cyngor iechyd y cyhoedd (ble bo’n briodol)
  • Sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei chofnodi’n amserol ac yn gywir o’r cyfweliadau hynny gan ddefnyddio’r systemau a ddarparwyd.

Rydym yn chwilio am bobl:

  • Brwdfrydig, cadarnhaol sy’n hawdd mynd atynt
  • Angerddol am ragori ar ddisgwyliadau cwsmeriaid a darparu profiad rhagorol i’r cwsmer
  • Cyfathrebwyr gwych, yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • Gallu amldasgio, blaenoriaethu a rheoli amser yn effeithiol
  • Oherwydd natur gweithio gartref ac ar-lein ar gyfer y swyddi hyn, mae’n rhaid i chi allu defnyddio cynnyrch Microsoft, systemau electronig a chronfeydd data. Os yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn offer priodol, hyfforddiant, a deunydd ymsefydlu.

Bydd y swyddi fel Goruchwylwyr Cymorth i Fusnesau (£34,788 i £37,849) Swyddogion Olrhain Cyswllt (£22,911 i £25,295) a Chynghorwyr Cyswllt (£18,795 i £19,953)

Mae oriau yn hyblyg gan gynnwys Min Nos a Phenwythnos. Mae gennych ddewis o naill ai contract tymor penodol tan 31 Mawrth 2021 neu sifftiau ad hoc, ar rota 7 diwrnod yr wythnos, sy’n gweithredu rhwng 8am ac 8pm. Dylech allu ymrwymo o leiaf 12 awr yr wythnos am o leiaf 12 wythnos.

Meddwl y gallech ymgymryd ag un o’r swyddi pwysig hyn? Yna gallwch gael golwg ar y manylion yma:

https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Jobs-and-careers/North-Wales-Tracing-Service.aspx

Drwy fod yn rhan o’r Tîm Olrhain Cyswllt rydych yn chwarae eich rhan

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae’r rhain yn swyddi pwysig iawn ac yn hanfodol i lwyddiant parhaus y rhaglen Profi, Olrhain a Diogelu. Drwy fod yn rhan o’r Tîm Olrhain Cyswllt, byddwch yn chwarae eich rhan drwy sicrhau bod y feirws yn cael ei reoli yn ein cymunedau a bod pobl yn cael eu diogelu rhag canlyniadau posibl y feirws difrifol hwn wrth i ni ddod i arfer gyda bywyd yn raddol yn dilyn y cyfnod clo.”

Trosolwg o Brofi, Olrhain, Diogelu

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno Profi, Olrhain, Diogelu i gyfyngu lledaeniad yr haint, olrhain y feirws a diogelu ein cymunedau.

Mae olrhain cyswllt yn ddull sydd wedi’i brofi i reoli lledaeniad clefydau heintus. Y nod yw diogelu iechyd y cyhoedd.  Nid yw hyn yn ymwneud â gorfodi na gwyliadwriaeth.

Wrth i gyfyngiadau’r cyfnod clo gael eu hymlacio’n raddol, byddwn i gyd angen cymryd camau i ddiogelu ein hunain.

Mae’n gweithio drwy:

  • Profi’r sawl â symptomau tra maen nhw a’u haelwydydd yn hunan-ynysu.
  • Os bydd canlyniad y prawf yn bositif, olrhain pobl sydd wedi bod mewn cysylltiad â’r sawl a brofwyd, i ofyn iddynt hunanynysu.
  • Diogelu’r gymuned, yn arbennig y mwyaf diamddiffyn.
  • Os bydd profion yn negyddol a symptomau ddim o ganlyniad i’r coronafeirws, gall y sawl a brofwyd a’u haelwyd ddychwelyd i’w harferion arferol.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Jobs-and-careers/North-Wales-Tracing-Service.aspx”]GWNEWCH GAIS RŴAN[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol council Treth y Cyngor i leihau 75% ar gyfer gofalwyr maeth yn Wrecsam
Erthygl nesaf Yn galw ar bob artist! Dim ond 2 wythnos ar ôl i gyflwyno'ch celf ar gyfer Arddangosfa Agored Tŷ Pawb... Yn galw ar bob artist! Dim ond 2 wythnos ar ôl i gyflwyno’ch celf ar gyfer Arddangosfa Agored Tŷ Pawb…

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor
Awst 18, 2026
Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 17, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Cau rheilffyrdd yn Wrecsam: Yr hyn y mae angen i deithwyr ei wybod
Pobl a lle
Awst 17, 2026
Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam

Awst 12, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr

Awst 13, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English