Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gallai cynllun peilot wneud cerdded i’r ysgol yn fwy diogel i blant Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Gallai cynllun peilot wneud cerdded i’r ysgol yn fwy diogel i blant Wrecsam
Busnes ac addysg

Gallai cynllun peilot wneud cerdded i’r ysgol yn fwy diogel i blant Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Mai 28, 2025 1:14 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
School gates
RHANNU

Gallai cynllun peilot wneud teithio i’r ysgol yn fwy diogel ac yn haws i blant mewn pentref yn Wrecsam.

Bydd Cyngor Wrecsam, mewn partneriaeth â Sustrans Cymru a Letman Associates, yn lansio treial tair wythnos yn Ysgol Gynradd Gymunedol Holt yn ddiweddarach y mis hwn.

Bydd y treial yn gweld cyfyngiadau traffig yn cael eu cyflwyno i gyfyngu ar nifer y cerbydau all gyrru a pharcio ger yr ysgol ar ddechrau ac ar ddiwedd y diwrnod ysgol.

Dyma’r cynllun ‘Strydoedd Ysgol’ cyntaf yn Wrecsam, ac mae’n cael ei ariannu gan gronfa Llwybrau Diogel mewn Cymunedau Llywodraeth Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Jones, Aelod Arweiniol Cyngor Wrecsam â chyfrifoldeb dros ddiogelwch ar y ffyrdd: “Dros y misoedd diwethaf, rydyn ni wedi bod yn gwrando ar ddisgyblion, rhieni a phreswylwyr am sut y gallwn ni wella’r daith i’r ysgol.

“Mae’r prif bryderon yn cynnwys goryrru, croesfannau annigonol i gerddwyr, palmentydd cul, gwelededd gwael ar gyffyrdd, a pharcio anystyriol.

“Mae’r ysgol eisoes yn gweithio’n galed i leihau traffig wrth y gatiau trwy annog cerdded, a defnyddio sgwteri a beiciau – felly dyma’r lle perffaith i dreialu’r cynllun Strydoedd Ysgol.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Phil Wynn, yr Aelod Arweiniol dros addysg: “Rydyn ni eisiau gwneud gatiau’r ysgol yn lle mwy diogel ac iach i blant, ac os yw’r cynllun peilot yn llwyddiant, gallai baratoi’r ffordd ar gyfer treialon tebyg mewn ysgolion cynradd eraill yn Wrecsam.

“Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae Strydoedd Ysgol wedi cael eu cyflwyno mewn rhannau eraill o’r DU gyda chryn lwyddiant.

“Dim ond yn ystod adegau allweddol o’r dydd y daw cyfyngiadau traffig i rym, felly mae unrhyw aflonyddwch ar fodurwyr yn cael ei leihau, ac mae’r plant yn fwy diogel.”

Nid yw union ddyddiadau’r treial yn Holt wedi’u cadarnhau eto, ond bydd Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Arbrofol yn cael ei gyhoeddi, ac mae trigolion, rhieni a disgyblion lleol yn cael y newyddion diweddaraf am y cynllun.

Rhannu
Erthygl flaenorol 20mph Adolygiad o Derfynau Cyflymder 20mya – Diweddariad
Erthygl nesaf Wrexham County Borough Council Mwy na £7 miliwn yn cael ei roi i fusnesau a phrosiectau lleol

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Sam Gardner
DigwyddiadauArallBusnes ac addysg

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 22, 2026
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg

Datblygu arloesi ffresni bwyd

Hydref 20, 2026
Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio...
Busnes ac addysg

Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio…

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English