Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Adolygiad o Derfynau Cyflymder 20mya – Diweddariad
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Adolygiad o Derfynau Cyflymder 20mya – Diweddariad
Y cyngor

Adolygiad o Derfynau Cyflymder 20mya – Diweddariad

Diweddarwyd diwethaf: Mai 23, 2025 4:03 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
20mph
RHANNU

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru derfyn cyflymder diofyn o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig ledled Cymru ar 17 Medi 2023.

Gweithredodd Cyngor Wrecsam hyn yn llwyddiannus gyda dim ond nifer fach o ffyrdd 30mya yn cael eu pennu fel rhai eithriedig.

Ym mis Ebrill 2024, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adolygiad o’r cynllun 20mya.

Yn dilyn ymgysylltu helaeth ag Aelodau ac ymgynghori cyhoeddus, cyflwynwyd rhestr o 52 rhan o briffordd a oedd yn bodloni meini prawf Llywodraeth Cymru ar gyfer dychwelyd i 30mya i’r Bwrdd Gweithredol ym mis Chwefror 2025 – cymeradwyodd y Bwrdd Gweithredol y rhestr yn llawn.

Ers hynny mae Cyngor Wrecsam wedi gwneud cais llwyddiannus am arian gan Lywodraeth Cymru ac wedi derbyn swm o £400,000. Mae hyn yn ddigon i gwmpasu’r gwaith arwyddion i sicrhau cydymffurfiaeth lawn yn unol â’r Gorchmynion Rheoleiddio Traffig cyfreithiol, yn ogystal ag ychydig o fân waith ar y priffyrdd i wella diogelwch – mae contractwr wedi’i benodi.

Bydd gwaith ar adfer yr arwyddion yn dechrau ym mis Mai a rhagwelir y bydd pob un o’r 52 rhan o briffordd yn dychwelyd i 30mya erbyn diwedd mis Mehefin.

Dywedodd yr Aelod Arweiniol dros Drafnidiaeth Strategol, y Cynghorydd David A Bithell: “Ar ôl derbyn canlyniadau’r ymgynghoriad cyhoeddus, roedd yn amlwg nad oedd y mwyafrif yn hapus â llawer o ffyrdd 20mya newydd a’r effeithiau yr oeddent yn eu cael. “Rydym wedi gwrando, ystyried y dystiolaeth ac, o ganlyniad, rydym yn newid 52 rhan o briffordd yn ôl – wedi’i ariannu nid trwy ddulliau lleol ond trwy arian gan Lywodraeth Cymru. “Ni yw’r awdurdod cyntaf yng Nghymru i ddechrau’r broses o newid ffyrdd yn ôl.

“Wrth i’r newidiadau i arwyddion gael eu gweithredu, cynghorir bod gyrwyr yn cadw at yr uchafswm terfyn cyflymder sydd wedi’i arwyddo a gyrru yn ôl amodau’r ffordd. “Ni fydd Parthau 20mya sy’n bodoli eisoes, fel y rhai o amgylch ysgolion, yn newid ac nid oes unrhyw esgus ar gyfer goryrru yn yr ardaloedd hyn”

Mae’r rhestr a gymeradwywyd gan y Bwrdd Gweithredol ar gyfer dychwelyd i 30mya isod. Sylwch fod y GRhT cyfreithiol yn cwmpasu 52 rhan o briffordd. Mae rhai rhannau o briffordd ar yr un ‘ffordd’ sy’n esbonio pam nad oes 52 o enwau ar y rhestr isod.

B5445 Allt Merffordd, Merffordd

B5445 Ffordd Caer, Gresffordd

A5152 Ffordd Caer, Acton (A483 – Garden Village)

A5152 Ffordd Caer, Acton (Garden Village – Dinas)

Lôn Tŷ Gwyn, Acton

B5100 Lôn Rhosnesni, Acton

Ffordd Jeffreys, Borras

A534 Ffordd Holt, Wrecsam (Lôn Hullah i Greyhound)

A534 Ffordd Holt, Borras (Greyhound i’r ffordd gyswllt)

A525 Ffordd Rhuthun, Wrecsam

A541 Ffordd yr Wyddgrug, Gwersyllt

Rhannu
Erthygl flaenorol Dyma pam y bydd craen ar Sgwâr y Frenhines ddydd Mawrth nesaf... Dyma pam y bydd craen ar Sgwâr y Frenhines ddydd Mawrth nesaf…
Erthygl nesaf School gates Gallai cynllun peilot wneud cerdded i’r ysgol yn fwy diogel i blant Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 21, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor

Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan

Awst 18, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English