Mae’r rhan fwyaf yn gwybod am gysylltiadau Wrecsam â hanes pêl-droed cenedlaethol Cymru.
Cafodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, ei sefydlu yn yr Wynnstay Arms ar Stryt Yorke ym 1876.
Rŵan, gallai’r cysylltiadau hynny gael eu gwneud yn amlycach, gyda chynlluniau i Amgueddfa Wrecsam fod yn gartref i Amgueddfa Bêl-droed Genedlaethol Cymru, a fyddai’n dangos hanes pêl-droed ein cenedl.
Cafodd cynlluniau am Amgueddfa Bêl-droed Genedlaethol bosib’ eu hawgrymu gyntaf yn haf 2016 ar ôl perfformiad arbennig Cymru ym Mhencampwriaeth Ewrop ac, yn dilyn hynny, fe gytunodd Llywodraeth Cymru i ymrwymo i gynnal astudiaeth i asesu a fyddai hynny’n bosib’.
Mae’r astudiaeth gan yr ymgynghorwyr Just Solutions newydd gael ei chyhoeddi ac mae wedi casglu mai lleoli’r cyfleuster newydd yn Amgueddfa Wrecsam, sydd eisoes yn gartref i Gasgliad Pêl-droed Cymru, fyddai’r ateb gorau a’r mwyaf cost-effeithiol.
Bydd argymhellion yr ymgynghorwyr yn cael eu trafod yng nghyfarfod llawn y Cynulliad ar Dachwedd 27 – ac rydyn ni’n gofyn i Lywodraeth Cymru gefnogi argymhellion yr ymgynghorwyr a gwneud Wrecsam yn gartref i’r amgueddfa newydd.
Dwedodd y Cyng. Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Mae hyn yn cais ardderchog. Mae pêl-droed yn chwarae rôl flaengar yn hanes dinesig a ffabrig Wrecsam a, gyda Wrexham Lager, mae Wrecsam yn enwog am ei hanes pêl-droed.
“Mae’r ceisiadau yma yn anelu at ychwanego elfen gref i’r cynnig i ymwelwyr a’r cynnig pêl-droed yn Wrecsam, ac rwy’n hapus iawn gyda chanlyniad yr ymgynghorwyr.
“Rwyf eisio diolch i bob partner a phob aelod o staff a weithiodd mor galed ar hon.”
“Mae pêl-droed yn un o’n brif gaffaeliaid”
Dwedodd Ian Bancroft, Prif Weithredwr: “Mae pêl-droed yn un o’n brif gaffaeliaid, ac y bydd hyn yn chwarae rôl flaengar am y weledigaeth sydd ganom am Wrecsam, a sut yr ydym am ddatblygu’r adael dros y 10 i 15 mlynedd nesaf.
“Mae ceisiadau fel y rhain yn helpu i ddiffinio’r naws yn ein gweledigaeth, ac mae’n bleser i weld bydd y cais hyn yn cael ei drafod gan Gynulliad Cymru.”
“Annog Llywodraeth Cymru’n gryf i gytuno”
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae gan Wrecsam gysylltiad balch iawn gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru dros amser maith iawn a byddai’r cysylltiad hwnnw’n parhau pe bai Amgueddfa Bêl-droed Cymru’n dod i Wrecsam.
“Mae swyddogion a chynrychiolwyr o Gyngor Wrecsam wedi bod yn trafod gyda Llywodraeth Cymru a’u hymgynghorwyr am beth amser ac fe fyddwn i’n annog Llywodraeth Cymru’n gryf i gytuno â chanfyddiadau’r ymgynghorwyr a dod â hanes pêl-droed cenedlaethol Cymru adref.”
“Mae gan yr amgueddfa botensial rhyngwladol”
Dywedodd Steve Grenter, Arweinydd Treftadaeth ac Archifau Cyngor Wrecsam: “Diolch i berfformiad y tîm cenedlaethol, mae pêl-droed Cymru wedi ennyn cryn dipyn o ddiddordeb yn ddiweddar ac o ganlyniad mae gan yr amgueddfa hon y potensial i ddod yn atyniad rhyngwladol yn ogystal ag un cenedlaethol.
Un o uchelgeisiau’r amgueddfa oedd cael rhyw fath o arddangosfa sefydlog am hanes pêl-droed yng Nghymru, oherwydd y cysylltiad cryf â hanes Wrecsam, a byddem yn parhau i arddangos y ddau beth ochr yn ochr yn y lleoliad gorau posib’.