O’r dydd Llun hwn (Ebrill 19) fe fyddwch yn gallu archebu ymweliad â Llyfrgell Wrecsam.
Fe fydd llyfrgelloedd yn parhau i ddarparu ‘gwasanaeth archebu a chasglu’, ond mae’r llacio diweddar ar y cyfyngiadau yng Nghymru yn golygu ein bod nawr yn barod i ailagor yr adeilad ar sail cyfyngedig.
Drwy ffonio 01978 292090 neu e-bostio library@wrexham.gov.uk fe fyddwch yn gallu trefnu apwyntiad 30 munud i alw i mewn i bori drwy’r llyfrau, benthyg a dychwelyd llyfrau.
Os ydych yn ymweld, dilynwch yr awgrymiadau hyn i helpu i gadw pawb yn ddiogel.
- Sicrhewch eich bod yn archebu ymlaen llaw, a chadwch at eich amser dynodedig.
- Dim ond ar eich pen eich hun neu gydag unigolyn arall o’ch aelwyd neu eich swigen gefnogaeth y gallwch ymweld.
- Cadwch at y rheolau cadw pellter cymdeithasol, gwisgwch orchudd wyneb a defnyddiwch y diheintydd dwylo a gaiff ei ddarparu.
- Sicrhewch eich bod wedi gadael yr adeilad cyn bod eich cyfnod o 30 munud wedi dod i ben.
- Os oes gennych unrhyw symptomau, peidiwch ag ymweld os gwelwch yn dda (hyd yn oed os ydych wedi archebu lle) – hunan ynyswch a threfnwch brawf.
Ni fydd y llyfrgell yn cynnig y cyfle i lungopïo, sganio nac yn cynnig mynediad at gyfrifiaduron cyhoeddus – dim ond pori drwy’r llyfrau, benthyg a dychwelyd llyfrau fyddwch chi’n gallu ei wneud.
Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.
Ail-agor yn raddol
Yn ddiweddar rhoddodd Llywodraeth Cymru ganiatâd i lyfrgelloedd ailagor, ac mae’r system archebu yn rhan o ddull graddol a gaiff ei fabwysiadu yn Wrecsam.
Dywedodd Shân Cooper sy’n goruchwylio gwasanaethau llyfrgell y cyngor:
“Fe fydd y system archebu yn ein helpu ni i reoli niferoedd yr ymwelwyr…fel y gallwn sicrhau fod yna ddigon o ofod i gadw pellter cymdeithasol.
“Rydym eisiau ailagor ein llyfrgelloedd yn y dull mwyaf diogel posibl ac, os yw’r system yn gweithio’n dda yn Wrecsam, fe fyddwn yn ei gyflwyno mewn llyfrgelloedd eraill yn y fwrdeistref sirol y mis nesaf (Mai).
“Yn y cyfamser fe fydd ein holl lyfrgelloedd yn parhau i gynnig gwasanaethau archebu a chasglu, sydd wedi profi’n boblogaidd yn ystod y pandemig.”
I ganfod mwy am y drefn archebu a chasglu a gwasanaethau llyfrgell ar-lein eraill, ewch i wefan y cyngor.
Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF