Yw eich plentyn yn gymwys ar gyfer cludiant am ddim i’r ysgol ym mis Medi? Os ydynt, gallwch wneud cais yn sydyn ac yn hawdd ar-lein rŵan. Mae’n hynod o syml.
Gwneud cais ar-lein yw’r ffordd symlaf a’r mwyaf cyfleus o wneud cais. Cliciwch yma i ddechrau eich cais.
A wyddoch chi fod ceisiadau yn agored i blant ysgol gynradd hefyd? Felly, os ydych yn rhiant i ddisgybl ysgol gynradd, gwiriwch i weld os yw eich plentyn yn gymwys.
Sut allaf i wybod os yw fy mhlentyn yn gymwys?
Byddwn yn darparu cludiant am ddim i ddisgyblion sy’n mynychu eu hysgol addas agosaf pan fo’r pellter cerdded yn fwy na 2 filltir i ddisgyblion ysgol gynradd neu 3 milltir i ddisgyblion ysgol uwchradd.
Ddim yn siŵr? Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am eu cymhwysedd drwy glicio yma.
Yw eich plentyn yn gymwys? Os felly, cliciwch yma i ddechrau eich cais rŵan 🙂
Dydw i ddim eisiau gwneud cais ar-lein
Dim problem, eich dewis chi yw hyn 🙂
Fel arall, gallwch wneud cais ar gyfer cludiant i’r ysgol trwy lawrlwytho’r ffurflen o’n gwefan, gallwch alw heibio’r Ganolfan Gyswllt ar Stryt yr Arglwydd yng Nghanol y dref, i nôl ffurflen, neu gallwch eu ffonio ar 01978 292000.
A fydd angen cludiant i’r ysgol arnoch ym mis Medi? Gwnewch gais ar-lein rŵan
GWNEWCH GAIS AR-LEIN RŴAN