Bydd Gŵyl Ffilmiau FOCUS Wales yn digwydd ar ddydd Sadwrn, Mai 18fed, 2019 yn Theatr Grove Park, Wrecsam – dan nawdd Ffilm Cymru a 73 Degree Films.
Bydd yr ŵyl yn cynnig amrywiaeth o sgriniadau a digwyddiadau ffilm ochr yn ochr â’r rhaglen gynhadledd ac arddangos cerddoriaeth arferol.
Fel rhan o’r diwrnod hwn mae gwneuthurwyr ffilmiau Cymru gyfan yn cael eu hannog i gyflwyno’u gwaith ar gyfer Gwobr Ffilm Fer FOCUS Wales gyntaf erioed. Bydd yn cynnig cyfleoedd i wneuthurwyr ffilmiau, o Gymru ac yn rhyngwladol, i gyflwyno’u gwaith i’w sgrinio a’u gwobrwyo mewn amgylchfyd arddangos o ansawdd uchel.
EISIAU MWY O AWGRYMIADAU A GWYBODAETH? COFRESTRWCH I DDERBYN EIN CYLCHLYTHYRAU AILGYLCHU AR E-BOST…
Bydd deiliaid bandiau llawes FOCUS Wales yn cael mynychu’r ŵyl ffilmiau heb gost ychwanegol ac mae tocynnau i’r ŵyl ffilmiau yn unig hefyd ar gael.
Am gyflwyniadau, tocynnau a gwybodaeth, ewch i focuswales.com/film
Yn y flwyddyn gyntaf hon o’r ŵyl, fe gynigir gwobrwyon mewn 2 gategori: Ffilm Fer Gorau o Gymru a Ffilm Fer Ryngwladol Gorau. Rhoddir ystyriaeth i bob ffilm, gyda neu heb sgript, sydd o dan 15 munud o hyd, gan gynnwys rhaglenni dogfen. Mae gostyngiadau ar gael i fyfyrwyr a bydd unrhyw un sydd â’u gwaith yn cael ei ddewis i’w sgrinio, yn derbyn tocyn am ddim i’r ŵyl ffilmiau. Mae ceisiadau’n cau am hanner nos, Mawrth 24ain, 2019.
Bydd gwybodaeth am ein sgriniadau arbennig a’r panel beirniaid uchel eu parch ar gael yn fuan trwy Wefan FOCUS Wales.
Eisiau mwy o awgrymiadau a gwybodaeth? Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyrau ailgylchu ar e-bost…
COFRESTRU