Rydym yn gwahodd pobl i ddod i siarad gyda ni mewn sesiwn glaw heibio yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt ddydd Mercher, 2 Hydref am gynlluniau i wella mynediad i Orsaf Reilffordd Gwersyllt.
Bydd Swyddogion wrth law o 10am tan 7:30pm, felly dewch draw i rannu eich barn am y newidiadau arfaethedig i 5 llwybr i Orsaf Reilffordd Gwersyllt.
Bydd y newidiadau arfaethedig i’r llwybrau yma’n eu gwneud nhw’n fwy diogel i gerddwyr a beicwyr ac maent yn rhan o brosiect Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol Cyngor Wrecsam sydd wedi cael cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru.
Bydd yr ymgynghoriad ar-lein yn dod i ben yn fuan
Bydd yr ymgynghoriad ar-lein ar fynediad i Orsaf Reilffordd Gwersyllt ar gael i’w gwblhau hyd at ddydd Sul, 13 Hydref.
Mae hwn yn ymgynghoriad ar y cyd rhwng Cyngor Wrecsam, Trafnidiaeth Cymru a’r cwmni ymgynghori, Atkins Realis.
I ddysgu mwy, ac i rannu eich syniadau, ewch i dudalen Dweud eich Dweud heddiw am welliannau Teithio Llesol Gwersyllt.
“Rydym eisiau clywed eich barn ar hyn”
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd gyda chyfrifoldebau dros gludiant strategol: “Os ydych yn defnyddio Gorsaf Reilffordd Gwersyllt, neu os byddech yn gwneud pe bai’n fwy diogel i gyrraedd yno, dewch i rannu eich barn yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt ar 2 Hydref, rhwng 10am a 7.30pm.
“Os nad ydych yn gallu dod i’r sesiwn galw heibio, mae amser i gwblhau’r ymgynghoriad ar-lein a fydd yn dod i ben ar 13 Hydref. Rydym eisiau clywed eich barn ar hyn, felly cwblhewch yr ymgynghoriad os gallwch chi.”
Gwaith yn dechrau ar Ddatblygu Tai Cymdeithasol newydd yn Johnstown – Newyddion Cyngor Wrecsam
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.