Fis diwethaf, dyfarnwyd galwr digroeso, a geisiodd gyflawni gwaith diangen ar eiddo cwpl oedrannus am bris o £28,000, yn euog o 3 trosedd dan gyfreithiau Diogelu’r Defnyddiwr ac mae’r unigolyn hwnnw bellach wedi’i ddedfrydu.
CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB
Dedfrydwyd Laurence Newberry i 12 mis o garchar am bob trosedd (cyfanswm o 3) wedi’i ohirio am 18 mis.
• gorfodwyd ef i dalu £1000 o iawndal i’r cwpl oedrannus
• 300 awr o wasanaeth cymunedol
• Gorchymyn Ymddygiad Troseddol am 5 mlynedd er mwyn ei atal rhag galw yn ddigroeso dros y ffôn / wyneb yn wyneb ar draws y DU
• £2500 o gostau wedi’u dyfarnu
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae’r ddedfryd hon yn anfon neges glir at unrhyw un sy’n poenydio unigolion oedrannus, nad yw ymddygiad o’r fath yn dderbyniol a bydd y Safonau Masnach a’r llysoedd yn gwneud pob dim o fewn eu grym i sicrhau eu bod yn cael eu dwyn o flaen eu gwell ac eu cosbi. Mae hefyd yn dda gweld y llys yn defnyddio ei rym i osod gorchymyn ymddygiad troseddol a rheoli ymddygiad yn y dyfodol. Os yw’r troseddwr hwn yn cael ei ddal yn cnocio ar ddrysau, waeth beth yw ei reswm dros wneud hynny, unrhyw le yn y DU yn ystod y 5 mlynedd nesaf, gall wynebu ddedfryd o garchar am ddirmyg y llys.”
Cyngor gan Safonau Masnach: “Os ydych chi’n credu bod angen gwneud gwaith ar eich tŷ, chwiliwch am grefftwyr ag enw da a holwch am ddyfynbrisiau gan fwy nag un cwmni cyn dechrau unrhyw waith. Gwiriwch pryd a sut y byddwch yn talu. Defnyddiwch argymelliadau a gwnewch yn siŵr eich bod yn derbyn manylion llawn y cwmni cyn i chi ymrwymo i unrhyw waith. Os ydych chi’n ansicr, holwch ffrind neu aelod o’ch teulu. Peidiwch â chytuno ag unrhyw waith gan alwyr diwahoddiad ar garreg eich drws.”
Os ydych chi’n gweld unrhyw beth amheus neu os hoffech chi roi gwybod am ddigwyddiad ffoniwch:
Yr Heddlu ar 101
Neu Gwasanaethau Cwsmer Cyngor Ar Bopeth ar 03454 040505.
Gwelwch y stori wreiddiol yma:
Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb
DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB