Sefydlwyd Gatewen Training, ar Stad Ddiwydiannol Llai, yn 1971 ac mae’n un o’r darparwyr hyfforddiant hynaf gogledd Cymru. Nod gwreiddiol y cwmni oedd cefnogi cyflogwyr lleol yn y sector warysau a logisteg drwy ddarparu hyfforddiant gyrru cerbydau nwyddau mawr (LGV) a wagenni fforch godi.
Mae’r Cyng. Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi ac Adfywio, wedi ymweld â’r cwmni’n ddiweddar gan ddysgu sut mae Gatewen erbyn hyn yn darparu ystod eang o gyrsiau – o yrru cerbydau LGV a defnyddio peiriannau i gyrsiau mwy cyffredinol fel iechyd a diogelwch a chymorth cyntaf. Maen nhw’n gweithio’n agos gyda thîm Cymunedau am Waith Wrecsam yn ogystal â llawer o gyflogwyr lleol eraill.
Ers dwy flynedd rŵan maen nhw wedi bod yn gweithio gyda dau goleg addysg bellach ar fenter dan nawdd Llywodraeth Cymru sy’n ceisio hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o yrwyr cerbydau LGV. Mae Cyfrifon Dysgu Personol yn caniatáu i unigolion 19 oed a hŷn astudio’n rhan-amser, o amgylch eu cyfrifoldebau presennol. Mae’n eu galluogi i ennill y sgiliau a’r cymwysterau sydd eu hangen arnyn nhw i newid neu ddringo’r ysgol yrfa.
“Mae cerbydau Gatewen Training yn olygfa gyfarwydd ar ein ffyrdd”
Meddai’r Cyng. Williams: “Mae cerbydau Gatewen Training yn olygfa gyfarwydd ar ein ffyrdd ond maen nhw’n cynnig llawer mwy na hyfforddiant HGV ac LGV. Roedd yn braf cael cwrdd â Julian a’r tîm a chlywed am yr holl waith da maen nhw’n ei wneud i helpu cwmnïau ac unigolion i wella eu cymwysterau.”
Meddai Julian Hughes, Cyfarwyddwr Gatewen Training: “Dros y ddwy flynedd ddiwethaf rydym ni wedi helpu dros 400 o bobl o ogledd a chanolbarth Cymru i gael mynediad at gyllid PLA ar gyfer hyfforddiant LGV. Mae rhai dysgwyr wedi dod at Gatewen yn ddechreuwyr llwyr ac mae eraill wedi cwblhau hyfforddiant Cat C+E, gan eu caniatáu i yrru cerbydau mwy o faint.
“Rydym ni wedi cyffroi’n arw am gael cefnogi rhaglen datblygu sgiliau yn y rhanbarth sy’n ategu prosiectau fel Bargen Dwf Gogledd Cymru a’r porthladd rhydd yng Nghaergybi.”
Chwifio’r faner Gymreig dros yrwyr tryciau benywaidd – gallwch weld a gwylio sut y bu Gatewen yn wych i un fam o Goedpoeth.
Mae’r fideo yn Saesneg yn unig.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch
Efallai yr hoffech chi hefyd ddarllen Llwyddiant Brecwast Busnes Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy yn Net World Sports