Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Pwerau cryfach i fynd i’r afael â thybaco anghyfreithlon yn dod i rym
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Pwerau cryfach i fynd i’r afael â thybaco anghyfreithlon yn dod i rym
Y cyngorPobl a lle

Pwerau cryfach i fynd i’r afael â thybaco anghyfreithlon yn dod i rym

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 25, 2023 1:43 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Tobacco
RHANNU

Ar 20 Gorffennaf 2023 daeth sancsiynau newydd i rym sy’n golygu y gall busnesau ac unigolion sy’n gwerthu tybaco anghyfreithlon gael dirwy o hyd at £10,000.

Bydd gan swyddogion Safonau Masnach y pŵer i atgyfeirio achosion at gyllid a Thollau Ei Fawrhydi er mwyn iddynt ymchwilio ymhellach i fusnesau neu unigolion sydd wedi’u dal yn gwerthu tybaco anghyfreithlon. Bydd CThEF, ble bo’n briodol, yn gweinyddu’r cosbau ac yn sicrhau bod sancsiynau priodol yn cael eu rhoi a’u gorfodi. Yn dibynnu ar ddifrifoldeb yr achosion, gall busnesau sy’n torri’r rheolau:

  • Wynebu cosb rhwng £2,500 a £10,000 am gyflenwi cynnyrch sy’n mynd yn groes i ofynion Tracio ac Olrhain Tybaco
  • Gweld eu cynnyrch yn cael ei atafaelu
  • Colli eu trwyddedau yn y DU drwy ddiddymu eu ID Gweithredwr Economaidd

Mae’r pwerau newydd yn adeiladu ar waith llwyddiannus Operation CeCe, menter ar y cyd rhwng CThEF a’r Safonau Masnach Cenedlaethol i fynd i’r afael â’r fasnach dybaco anghyfreithlon, sydd wedi gweld 27 miliwn o sigaréts anghyfreithlon a 7,500kg o dybaco rolio â llaw yn cael eu hatafaelu – a hynny mewn dwy flynedd yn unig.

I’r trysorlys, mae masnachu cynnyrch o’r fath yn costio dros £2 biliwn mewn refeniw trethi. Mae hefyd yn difrodi busnesau cyfreithlon, yn tanseilio iechyd y cyhoedd ac yn hwyluso cyflenwi tybaco i bobl ifanc.

Gallwch ddarllen canllawiau’r sancsiynau newydd yma.

I wybod mwy am dybaco anghyfreithlon neu i roi gwybod am werthiant anghyfreithlon yn eich ardal chi, ewch i https://noifs-nobutts.co.uk/ neu ffoniwch 029 2049 0621.

Mae tybaco yn aml iawn yn cyrraedd dwylo plant

Meddai Roger Mapleson, Arweinydd Safonau Masnach a Thrwyddedu Wrecsam: “Ar gyfartaledd mae tybaco anghyfreithlon yn costio tua hanner pris tybaco cyfreithlon, ac mae ar gael yn ein cymunedau ni. Mae pris isel a’r argaeledd y cynnyrch yn ei wneud yn haws i blant ddechrau ysmygu a dechrau dibynnu arno, ac mae’n gwneud pethau’n anoddach i ysmygwyr sy’n ceisio rhoi’r gorau iddi.

“Os ydych chi’n gwybod am fusnes neu unigolyn sy’n gwerthu tybaco anghyfreithlon yn eich ardal chi, rhowch wybod am hynny drwy ffonio’r rhif uchod.”

Dywedodd Kate Pike, Prif Swyddog y Sefydliad Safonau Masnach Siartredig, “Mae Swyddogion Safonau Masnach ledled y wlad yn gweithio gyda chydweithwyr ym maes Iechyd y Cyhoedd i leihau’r niwed o ysmygu a chyda phartneriaid gorfodi i darfu ar droseddau yn ein cymunedau.

“Rydym yn croesawu’r ychwanegiad hwn i’n pecyn cymorth o fesurau i fynd i’r afael â thybaco anghyfreithlon, gan sicrhau bod y rhai sy’n ceisio elwa o gyflenwi’r cynhyrchion hyn yn wynebu cosbau sylweddol am wneud hynny, ac mae eu gallu i barhau i fasnachu yn cael ei effeithio’n ddifrifol.”

Efallai yr hoffech chi hefyd ddarllen ‘Gnocwyr Nottingham’ yn ardaloedd Wrecsam a Sir y Fflint

Derbyniwch y newyddion diweddaraf ar sgamiau, galw nôl cynnyrch a  materion diogelu’r cyhoedd eraill

Illegal Tobacco
Rhannu
Erthygl flaenorol Gatewen Hanner canrif o Gatewen Training yn Wrecsam
Erthygl nesaf Lego Sut i ddechrau gwyliau’r haf am ddim!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
Tattoo Cymru 2026
DigwyddiadauPobl a lle

Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr

Awst 26, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English