“Gallwch chi fyw’n dda gyda dementia” yw’r neges y mae Cymdeithas Alzheimer yn ei rhannu yn ei sesiynau Cyfeillion Dementia, ac i nifer, gall celf fod yn gymorth enfawr.
Yn Wrecsam, mae Cyfeillion Dementia yn cynnig grŵp celf wythnosol i’r rhai sydd yn dioddef o’r afiechyd a’u gofalwyr.
Mae’r sesiynau’n cynnig dwy awr o gelf wedi’i gefnogi gan yr artist Margaret Roberts yn Neuadd Eglwys St Margaret yn Wrecsam.
Bydd yr holl offer a’r amrywiol bethau’n cael eu darparu am ddim ac yn cael eu cefnogi gan roddion gan gymwynaswyr sydd wedi cael eu heffeithio gan yr afiechyd.
Yn dilyn marwolaeth drist Jo Edwards, cytunodd ei theulu oedd yn gyfrifol am y cyllid gwreiddiol i ddechrau’r grŵp, i’w dymuniad y byddai unrhyw roddion yn ei hangladd yn cael eu rhoi i’r grŵp celf yma yn Wrecsam.
Yn ddiweddar, fe aeth y teulu, wedi’u cynrychioli gan Anne Edwards Smith a Neale Edwards i ymweld â’r grŵp i roi siec o £850.
Fe fydd y rhodd hael hwn yn darparu deunyddiau i’r grŵp ar gyfer y dyfodol.
Dywedodd y Cynghorydd Frank Hemmings, sef Llysgennad Dementia gyda Chymdeithas Alzheimer:
“Mae’r grŵp celf yn cael ei gefnogi’n dda gan nifer fawr o fyfyrwyr a’u gofalwyr ar hyn o bryd wrth i ni weithio tuag at arddangosfa yng nghanolfan Tŷ Pawb ym mis Ebrill, pan fyddwn ni’n arddangos rhywfaint o’r gwaith maent wedi’u cwblhau yn ystod y dosbarthiadau.
“Mewn nifer o achosion mae celf wedi profi i fod yn therapi da i’r rhai sy’n byw gyda dementia ac yn aml maent yn cael eu synnu gyda safon y gwaith sy’n cael ei gynhyrchu. Mae’n grŵp hyfryd, cyfeillgar ac yn enghraifft wych o sut y gall pobl fyw’n dda gyda dementia a byw bywyd llawn.”