Fel cyngor, rydym wedi ymrwymo i helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng o ran yr hinsawdd ac rydym yn chwilio am ffyrdd newydd a chreadigol o leihau ein hallyriadau carbon.
Fel rhan o’n hymrwymiad, rydym eisoes wedi gosod nifer o fannau gwefru trydan mewn meysydd parcio ar draws y fwrdeistref sirol, yn ogystal â buddsoddi mewn fflyd fach o bum car trydan a ddefnyddir gan ein staff.
A nawr rydym yn treialu cerbyd sbwriel trydan fel rhan o’n canolbwynt parhaus ar leihau ein hallyriadau carbon.
Glanach a thawelach
Mae cerbydau disel sy’n casglu deunydd ailgylchu a gwastraff ar draws Bwrdeistref Sirol Wrecsam ymhlith y rhai sy’n gollwng y mwyaf o CO2 yn fflyd y cyngor.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Mae’r cerbyd sbwriel trydan sy’n cael ei dreialu wedi’i ailwampio a’i uwch-gylchu o gerbyd injan disel.
Felly rydym yn awyddus i beilota defnyddio cerbyd sbwriel trydan a allai gynnig gwasanaeth casglu gwastraff heb unrhyw allyriadau, os bydd yn llwyddiannus.
Mae cerbydau trydan yn atal mwg niweidiol o bibelli ecsôst fel ocsidiau nitrogen rhag cael eu rhyddhau i’r aer, gan gyfrannu at well ansawdd aer i bawb.
Mae hyn yn arbennig o fuddiol i weithredwyr casglu sy’n gweithio gyda’r cerbyd bob dydd.
Mae injans disel hefyd yn ffynhonnell llygredd sŵn mewn ardaloedd preswyl, ac mae cerbydau trydan yn sylweddol dawelach na’u cerbydau disel cyfatebol.
Mae ganddynt hefyd gostau rhedeg is o’u cymharu â cherbydau sbwriel disel.
Cam c
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym wedi cael grant o £155,000 gan Lywodraeth Cymru a gaiff ei wario ar brynu cerbyd trydan.
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
“Bydd ychwanegu cerbyd sbwriel trydan i’n fflyd yn gam amgylcheddol cadarnhaol.
“Gyda disgwyl i boblogaeth Wrecsam barhau i dyfu dros y blynyddoedd nesaf, gan gynyddu faint o wastraff gaiff ei gynhyrchu’n gyffredinol, mae’r cyngor yn ceisio gwella’i gyfradd ailgylchu’n gyson a lleihau ei effaith ar yr amgylchedd.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor: “Mae preswylwyr Wrecsam yn cyflawni cyfraddau ailgylchu uchel yn gyson, ac fel cyngor rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella ein gwasanaethau casglu deunydd ailgylchu a gwastraff, wrth leihau ein heffaith ar yr amgylchedd.”
“Os bydd y cynllun peilot yn llwyddiannus, gallech weld cerbyd sbwriel trydan yn casglu eich gwastraff cyn hir, yn hytrach na cherbyd disel.”
Lawrlwythwch yr ap GIG