Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gofynnwn i chi ddangos rhywfaint o barch yn ystod Noson Tân Gwyllt eleni ac aros yn ddiogel
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
wrexham library
‘A Pack of Five’ (Wedi’i ysbrydoli gan Hedd Wyn)
Digwyddiadau
good to grow
Da i Dyfu
Busnes ac addysg Pobl a lle
PlayDay
Diwrnod Chwarae Wrecsam 2025
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Arall Fideo Y cyngor
Plastic Free July
Ymunwch â’r miliynau sy’n cymryd rhan yn Gorffennaf Heb Blastig
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Gofynnwn i chi ddangos rhywfaint o barch yn ystod Noson Tân Gwyllt eleni ac aros yn ddiogel
ArallPobl a lle

Gofynnwn i chi ddangos rhywfaint o barch yn ystod Noson Tân Gwyllt eleni ac aros yn ddiogel

Diweddarwyd diwethaf: 2021/11/01 at 2:11 PM
Rhannu
Darllen 7 funud
Bonfire Night
RHANNU

Rydym yn ymuno â Thân ac Achub Gogledd Cymru, Ambiwlans Cymru a Heddlu Gogledd Cymru i helpu i gadw pawb yn ddiogel eleni yn ystod noson a thymor y tân gwyllt.

Cynnwys
Cadwch yn ddiogel os gwelwch yn dda a dilynwch y Cod Tân Gwyllt.“Dymunwn noson ddiogel a hwyliog i bawb.” Ddylech chi ddim cynnau tân gwyllt rhwng 11pm a 7am, ar wahân i:

Gyda llawer o ddigwyddiadau a drefnwyd wedi eu gohirio, gallai pobl gael eu temtio i gynnau tân gwyllt a chael coelcerthi yn eu gerddi – ac mae pryderon y gallai hyn olygu y bydd hi’n noson brysur i’r gwasanaethau brys drwy’r rhanbarth.

Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.

Dywedodd y Cyng. Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol, “Rydym eisiau i bawb fwynhau noson tân gwyllt ond hefyd i fod yn ymwybodol fod tân gwyllt yn berygl a dylid eu trin â pharch.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

“Mae ein gwasanaethau brys o dan bwysau mawr ar hyn o bryd a dylem wneud popeth a allwn i’w hamddiffyn rhag damweiniau a ellir eu hosgoi trwy fod yn ofalus. Cymerwch ofal a dylech ond brynu gan gyflenwyr sydd ag enw da a dilyn yr holl gyfarwyddiadau diogelwch.”

“Mae noson tân gwyllt hefyd yn arbennig o anodd i anifeiliaid a hoffwn annog unrhyw un a fydd yn tanio tân gwyllt i fod yn ymwybodol o sut y gallant ostwng yr ofn y gallant ei achosi.”

Mae mwy o wybodaeth ar sut y gallwch gymryd gofal gyda thân gwyllt ar wefan RSPCA.

Gofynnwn i chi ddangos rhywfaint o barch yn ystod Noson Tân Gwyllt eleni ac aros yn ddiogel

Meddai Paul Scott, Uwch Reolwr Diogelwch Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Mae gostyngiad mawr wedi bod yn y nifer o ddigwyddiadau sy’n ymwneud â thân gwyllt a choelcerthi wrth i’r cyhoedd wrando ar ein cais i fynychu arddangosfeydd wedi eu trefnu yn hytrach na chynnau coelcerthi eu hunain gartref.

“Rydyn ni’n pryderu y gallai’r gohiriad o lawer o arddangosfeydd tân gwyllt wedi eu trefnu, arwain at gynnydd yn yr arddangosfeydd yn y cartref ac yn yr anafiadau posibl ac rydym yn annog pobl i feddwl ddwywaith cyn defnyddio tân gwyllt yn eu cartrefi.

“Os allwch chi fynychu arddangosfa wedi ei threfnu yna gwnewch hynny ar bob cyfrif – dyna’r ffordd fwyaf diogel i fwynhau tân gwyllt.

“Os fyddwch chi’n penderfynu cynnau tân gwyllt neu gael coelcerth, byddem ni’n apelio ar bawb i ddangos PARCH drwy ddilyn y cyngor a welir isod.”

Cofiwch mai ffrwydron yw tân gwyllt, ac felly, dylid eu trin gyda pharch a dim ond eu defnyddio drwy ddilyn cyfarwyddiadau’r gwneuthurwyr a’r Cod Tân Gwyllt.

Cadwch yn ddiogel os gwelwch yn dda a dilynwch y Cod Tân Gwyllt.

Ein cyngor yw:

  • Cynlluniwch eich arddangosfa tân gwyllt er mwyn ei wneud yn ddiogel a hwyliog, a gwnewch yn siŵr ei fod yn gorffen cyn 11p.m.
  • Prynwch y tân gwyllt sydd â’r marc CE yn unig, cadwch nhw mewn blwch sydd ar gau, gan eu defnyddio un ar y tro
  • Darllenwch a dilynwch y cyfarwyddiadau sydd ar bob tân gwyllt gan ddefnyddio torsh os oes angen
  • Cyneuwch y tân gwyllt o hyd braich gyda thapr a sefwch yn ôl
  • Peidiwch â dod â fflam agored, gan gynnwys sigarennau’n agos at dân gwyllt
  • Peidiwch byth â dychwelyd at dân gwyllt unwaith yr ydych wedi ei goleuo
  • Peidiwch â rhoi tân gwyllt yn eich pocedi a pheidiwch byth â’u taflu
  • Anelwch unrhyw roced tân gwyllt i ffwrdd oddi wrth y gwylwyr
  • Peidiwch byth â defnyddio paraffin neu betrol ar goelcerth
  • Gwnewch yn siŵr fod y tân wedi diffodd a bod yr ardal o’i gwmpas yn ddiogel cyn gadael

Meddai Liz Wedley, Pennaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru: “Yn aml, bydd cynnydd yn y galwadau brys i’r gwasanaeth ambiwlans ar Noson Tân Gwyllt, gyda phobl yn dioddef anafiadau drwy losgi neu anawsterau anadlu yn dilyn anadliadau mwg.

“Byddem ni’n gofyn i bobl beidio cymryd rhan mewn unrhyw weithgareddau sy’n cynnig y risg gynyddol o ddioddef anaf y gellid ei osgoi, megis arddangosfeydd tân gwyllt yn y cartref neu goelcerthi didrwydded.

“Dymunwn noson ddiogel a hwyliog i bawb.”

Gall tân gwyllt roi braw i bobl ac i anifeiliaid. Yn aml, bydd pobl hŷn a phlant yn ofnus ac yn cael eu brawychu gan sŵn tân gwyllt. Wedi’r cyfan, ffrwydron yw tân gwyllt. Dywedwch wrth eich cymdogion os ydych yn cynllunio i gynnau tân gwyllt a cheisiwch beidio prynu rhai swnllyd iawn. Gofynnwn i chi fod yn ystyriol wrth gynnal parti tân gwyllt gan wneud yn siŵr fod y sŵn wedi gorffen erbyn 11pm

 Ddylech chi ddim cynnau tân gwyllt rhwng 11pm a 7am, ar wahân i:

  • Noson Tân Gwyllt, pan mai hanner nos yw’r amser gorffen
  • Nos Galan, Diwali a Blwyddyn Newydd y Tsieineaid, pan mai 1am yw’r amser gorffen

Meddai Helen Corcoran, Uwch-arolygydd Heddlu Gogledd Cymru: “Gobeithiwn y bydd pobl yn dangos agwedd gyfrifol at Noson Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt eleni, fel y gwnaethant 12 mis yn ôl. Mae’r 18 mis diwethaf wedi bod yn anodd i bawb, ac mae’n ddealladwy y bydd llawer yn edrych ymlaen at ddathlu’r cyfnod gyda’u teuluoedd.

“Gwyddom fod y mwyafrif o bobl yn mwynhau’r adeg hon o’r flwyddyn yn synhwyrol ac nid ydym ni eisiau dinistrio’u hwyl ond yn anffodus, mae lleiafrif sy’n benderfynol o achosi problemau a defnyddio’r dathliadau fel esgus i dorri’r gyfraith ac ymddwyn yn anghymdeithasol.

“Rydym eisiau cydweithio â’n cymunedau i wneud yn siŵr eu bod yn gallu mwynhau eu hunain yn ddiogel, felly bydd gennym swyddogion allan drwy’r rhanbarth – yn helpu i addysgu, cysuro a chadw’n cymunedau’n ddiogel.”

Os ydych chi’n chwilio am yrfa newydd ac os hoffech chi helpu pobl yn eich cymuned, ystyriwch swydd gofal cymdeithasol.

DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL

Rhannu
Erthygl flaenorol Mae angen eich barn ar atyniad mawr newydd yng nghanol y dref Mae angen eich barn ar atyniad mawr newydd yng nghanol y dref
Erthygl nesaf Wedi'i diweddaru: Mae amser yn rhedeg allan Wedi’i diweddaru: Mae amser yn rhedeg allan

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

wrexham library
‘A Pack of Five’ (Wedi’i ysbrydoli gan Hedd Wyn)
Digwyddiadau Gorffennaf 15, 2025
good to grow
Da i Dyfu
Busnes ac addysg Pobl a lle Gorffennaf 14, 2025
PlayDay
Diwrnod Chwarae Wrecsam 2025
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 14, 2025
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Arall Fideo Y cyngor Gorffennaf 14, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

good to grow
Busnes ac addysgPobl a lle

Da i Dyfu

Gorffennaf 14, 2025
PlayDay
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Diwrnod Chwarae Wrecsam 2025

Gorffennaf 14, 2025
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
ArallFideoY cyngor

Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam

Gorffennaf 14, 2025
Plastic Free July
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Ymunwch â’r miliynau sy’n cymryd rhan yn Gorffennaf Heb Blastig

Gorffennaf 11, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English