Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae angen eich barn ar atyniad mawr newydd yng nghanol y dref
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Mae angen eich barn ar atyniad mawr newydd yng nghanol y dref
Pobl a lle

Mae angen eich barn ar atyniad mawr newydd yng nghanol y dref

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 1, 2021 10:23 am
Rhannu
Darllen 5 funud
Mae angen eich barn ar atyniad mawr newydd yng nghanol y dref
RHANNU

Mae atyniad newydd o bwys yn dod i ganol tref Wrecsam – ac mae angen eich help arnom i’w ddatblygu a’i ddylunio!

Cynnwys
  • Bydd amgueddfa newydd yn ‘adrodd stori pêl-droed yng Nghymru’
  • Bydd Amgueddfa Wrecsam yn fwy ac yn well nag erioed
  • Rydym angen chi!
  • Amser cyffrous i’r dref
  • ‘Mae pêl-droed yn ymwneud â’r cefnogwyr’

Mae Cyngor Wrecsam mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru yn bwriadu ailddatblygu adeilad Amgueddfa Wrecsam yn sylweddol i greu Amgueddfa Bêl-droed Cymru ar y cyd ag Amgueddfa Wrecsam, gyda’r ddwy ar yr un safle. Bydd yr amgueddfa yn cydnabod pwysigrwydd pêl-droed yng Nghymru ac yn sicrhau lle Wrecsam fel cartref ysbrydol pêl-droed yng Nghymru.

Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.

Bydd amgueddfa newydd yn ‘adrodd stori pêl-droed yng Nghymru’

Bydd yr Amgueddfa Bêl-droed newydd yn atyniad anferthol i ganol tref Wrecsam ac yn atynnu ymwelwyr o bob cwr o’r wlad a thu hwnt. Bydd yn adrodd stori pêl-droed yng Nghymru, o’r clybiau, cymunedau a’r cefnogwyr ar draws y wlad yr holl ffordd i fyny at y timau cenedlaethol a’u cyraeddiadau hanesyddol.

Bydd Amgueddfa Wrecsam yn fwy ac yn well nag erioed

Bydd yr Amgueddfa Bêl-droed  drws nesaf i orielau newydd a fydd yn edrych yn ôl ar hanes Wrecsam, o straeon am ei breswylwyr cyn-hanesyddol a adroddir trwy dystiolaeth archeolegol, y cyfnod Rhufeinig, amseroedd canoloesol, caledi a heriau’r oes ddiwydiannol, rhyfeloedd y cyfnod modern a sut yr oedd pobl Wrecsam yn arfer byw, gweithio a chymdeithasu hyd at heddiw trwy’r casgliadau sy’n cael eu cadw mewn ymddiriedolaeth gan yr amgueddfa.

Rydym angen chi!

I’n helpu ni ddatblygu a dylunio amgueddfa sy’n cwrdd ag anghenion ymwelwyr a chymunedau ledled Cymru hoffem glywed eich safbwyntiau. Gallwch ein helpu drwy atebwch y cwestiynau yn yr arolwg hwn.

Defnyddir ymatebion yr arolwg i lywio datblygiad Amgueddfa Wrecsam ac Amgueddfa Bêl-droed newydd Cymru.

Amser cyffrous i’r dref

Meddai’r Cyng. Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol Cyngor Wrecsam: “Mae prosiect yr Amgueddfa Bêl-droed yn parhau i wneud cynnydd da ac rydym bellach wedi cyrraedd y cam lle gall ymgynghori cyhoeddus ar y cam dylunio ddechrau o ddifrif. Rydyn ni eisiau casglu barn gan gynifer o bobl â phosib, nid yn unig ymwelwyr traddodiadol â’r amgueddfa ond hefyd bobl nad ydyn nhw fel arfer yn ymweld â’r amgueddfa, ac wrth gwrs unrhyw un sydd â diddordeb ym mhrosiect newydd yr Amgueddfa Bêl-droed.

“Bydd yr ymatebion i’r arolwg hwn yn cael eu trafod gyda thîm dylunio’r prosiect a byddant yn hynod bwysig wrth helpu i lywio’r cynigion cynnar ar gyfer yr atyniad mawr newydd hwn yng nghanol y dref – Amgueddfa Bêl-droed i Gymru ochr yn ochr ag Amgueddfa Wrecsam wedi’i hailwampio a’i hadnewyddu. . ”

Dywedodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon: “Mae ein hanes a’n diwylliant unigryw yn dod â llawer o ymwelwyr i Gymru. Rydym yn benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i helpu ein diwydiannau twristiaeth, chwaraeon, creadigol a diwylliannol i wella o brofiad y pandemig a ffynnu yn y dyfodol. Rydyn ni’n gobeithio y bydd yr amgueddfa bêl-droed a’r orielau arfaethedig yn helpu i ddenu llawer o ymwelwyr newydd i Wrecsam ac yn cefnogi’r economi leol ar adeg gyffrous i’r dref. ”

‘Mae pêl-droed yn ymwneud â’r cefnogwyr’

Mae prosiect yr Amgueddfa Bêl-droed eisoes wedi tynnu diddordeb oddi wrth ychydig o enwau adnabyddus gêm Cymru, gan gynnwys Ian Walsh (18 cap a 7 gôl i Gymru).

Meddai Ian: “Rwy’n credu bod y prosiect amgueddfa bêl-droed newydd i Gymru yn wych ac yn gyffrous iawn. Mae hyn yn arbennig o wir i mi gan ei fod wedi’i leoli yn Wrecsam lle cefais un o’r diwrnodau balchaf mewn crys Cymreig yn curo Lloegr 4-1 !!

“Mae pêl-droed yn ymwneud â’r cefnogwyr ac mae’n gyfle gwych iddyn nhw gael eu barn wrth symud ymlaen!”

Ni ddylai’r arolwg gymryd mwy na 10 munud. Bydd eich atebion yn parhau i fod yn gyfrinachol ac ond yn cael eu defnyddio i helpu gyda’r cynigion cynnar ar gyfer yr amgueddfa.

Cwblhewch yr arolwg yma

Os ydych chi’n chwilio am yrfa newydd ac os hoffech chi helpu pobl yn eich cymuned, ystyriwch swydd gofal cymdeithasol.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/service/care_jobs_in_wrexham”]DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Poppy field Seiren cyrch awyr i seinio ar Ddiwrnod y Cadoediad
Erthygl nesaf Bonfire Night Gofynnwn i chi ddangos rhywfaint o barch yn ystod Noson Tân Gwyllt eleni ac aros yn ddiogel

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
DigwyddiadauPobl a lle

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.

Medi 2, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English