Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gogledd Cymru yn ymateb i ganlyniadau Lefel-A
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Gogledd Cymru yn ymateb i ganlyniadau Lefel-A
Busnes ac addysg

Gogledd Cymru yn ymateb i ganlyniadau Lefel-A

Diweddarwyd diwethaf: Awst 13, 2020 2:30 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
A-level
RHANNU

Dymuna’r chwe deilydd portffolio addysg sydd yn cynrychioli chwe Awdurdod Lleol Gogledd Cymru, eu Prif Swyddogion, y Consortiwm Gwella Ysgolion Rhanbarthol, GwE a phenaethiaid uwchradd longyfarch holl ddysgwyr Blwyddyn 12 ac 13 ar eu llwyddiannau eleni. Gwyddom y bydd rhai dysgwyr yn hapus iawn gyda’u canlyniadau a fydd yn rhoi modd iddynt fynd ymlaen i’r camau nesaf yn eu gyrfa.

Er hynny, o safbwynt y dysgwyr hynny, eu rhieni a’r ysgolion sydd wedi’u siomi, ac efallai wedi cael cam gan y broses safoni a ddefnyddiwyd yma yng Nghymru, hoffem gael sicrwydd gan Lywodraeth Cymru na fydd disgyblion Gogledd Cymru dan anfantais nac yn colli cyfleoedd i fynd i’r brifysgol, addysg bellach na llwybr cyflogaeth o’u dewis nhw pan gânt eu cymharu â’u cyfoedion mewn gwledydd eraill yn y DU, yr Alban yn enwedig.

Yn sgil cael y canlyniadau y bore yma, dywed nifer sylweddol o ysgolion nad oes ganddynt ddealltwriaeth na hyder yn y broses safoni a fabwysiadwyd yng Nghymru, sydd wedi arwain at gryn anghysondebau ar lefel dysgwyr a phynciau mewn ysgolion unigol. Mae’r diffyg tryloywder yn bryderus iawn.

Cymhlethwyd y mater ymhellach gyda’r troeon pedol sylweddol a welwyd yn yr Alban a Lloegr. Mae angen cysondeb ar draws cyrff cymwysterau y DU nawr yn fwy nag erioed o’r blaen. Yng Nghymru, ymddengys bod perygl difrifol bod amddiffyn brand arholiad yn bwysicach na chydnabod anghenion dysgwyr, yn enwedig y rhai mwyaf bregus yn yr amgylchiadau hyn nas gwelwyd mo’u tebyg erioed o’r blaen.

Nid yw’r cyhoeddiad a ddaeth yn hwyr neithiwr na fydd gradd Safon Uwch derfynol dysgwr yn is na’u gradd Uwch Gyfrannol, yn lleihau ein pryderon am y broses safoni. Yn wir, mae’n awgrymu i raddau, nad yw Llywodraeth Cymru ei hun yn gyfforddus â deilliannau’r broses a fabwysiadwyd. Rydym hefyd yn bryderus, ac yn cwestiynu os yw’r broses apelio yn addas i’r diben mwyach.

Rydym ni, y gymuned addysg yng Ngogledd Cymru, yn arbennig o bryderus am les emosiynol dysgwyr, yn enwedig y rhai mwyaf bregus. Gallai’r broses hon fod wedi gwneud drwg i gyfleoedd bywyd y dysgwyr hyn i fynd i’r brifysgol, addysg neu lwybr cyflogaeth o’u dewis.

Mae arnom angen sicrwydd hefyd gan Lywodraeth Cymru na fydd prifysgolion a’r broses glirio yn llesteirio ein dysgwyr yma yng Ngogledd Cymru, a bod Llywodraeth Cymru yn gwbl hyderus bod gan ein dysgwyr gyfle teg i ddilyn eu dewis nhw o lwybr yn y dyfodol pan fyddant yn cystadlu yn erbyn unrhyw ddysgwr tebyg yn y DU.

Yn yr un modd, rydym yn bryderus bod y broses safoni, manylion nas rannwyd â’r proffesiwn ymlaen llaw, yn cael effaith andwyol ar ysbryd athrawon ac arweinwyr ysgolion drwy danseilio eu barn broffesiynol yn sylweddol, ac y bydd hyder rhieni hefyd wedi cael ei danseilio oherwydd anghysonderau fel hyn yn y canlyniadau a welwn heddiw.

Rydym eisiau rhoi ar gofnod ein bod yr un mor bryderus am yr hyn all ddigwydd i’n dysgwyr TGAU wythnos nesaf gan nad yw’r broses hon wedi rhoi hyder i ni, ac nad oes unrhyw broses apelio ystyrlon i ddysgwyr apelio yn erbyn y graddau a gânt.

I gloi, hoffem ddymuno’r gorau i’n holl bobl ifanc yn y dyfodol a chydnabod y cymorth a gawsant gan eu hysgolion, eu teuluoedd a’r awdurdodau lleol drwy holl heriau y misoedd diwethaf, nas gwelwyd mo’u tebyg o’r blaen.

Rhannu
Erthygl flaenorol Wrexham AFC Arwyddo penawdau’r telerau gyda CPD Wrecsam
Erthygl nesaf Dyma adeg honno’r flwyddyn eto…sicrhewch eich bod wedi cofrestru i bleidleisio yn yr etholiad nesaf Dyma adeg honno’r flwyddyn eto…sicrhewch eich bod wedi cofrestru i bleidleisio yn yr etholiad nesaf

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wrecsam 2029
Mae’n swyddogol! Mae Wrecsam wedi’i henwi ar restr fer derfynol teitl Dinas Diwylliant y DU
Pobl a lle
Hydref 22, 2026
Mayor attending the Taste of Nigeria Festival
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref
Pobl a lle Arall
Hydref 21, 2026
Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU
Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU
Pobl a lle
Hydref 21, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysg Pobl a lle
Hydref 21, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg

Datblygu arloesi ffresni bwyd

Hydref 20, 2026
Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio...
Busnes ac addysg

Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio…

Hydref 9, 2026
All Saints School Pupils
Busnes ac addysgPobl a lle

Aur i Gresffordd – Ysgol yr Holl Saint yn creu hanes yn Wrecsam!

Hydref 7, 2026
Twf cynaliadwy gyda chefnogaeth Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam
Busnes ac addysg

Twf cynaliadwy gyda chefnogaeth Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam

Hydref 6, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English