Yr wythnos diwethaf, cynhaliwyd twrnamaint pêl-droed merched yn Stadiwm Queensway i ysgolion cynradd lleol.
Tîm Pobl Ifanc Egnïol Wrecsam Egnïol wnaeth drefnu’r digwyddiad, gyda Sefydliad Cymuned Cae Ras Clwb Pêl-droed Wrecsam fel rhan o Brosiect Premier League Primary Stars y Sefydliad.
Gwnaeth mwy na 100 o ferched o 11 ysgol gynradd; Acrefair, Yr Holl Saint Gresffordd, Borras, Bryn Tabor, Cefn Mawr, Cynddelw, Deiniol, Hafod Y Wern, Maes Y Llan, Penycae a Phlas Coch gymryd rhan yn y twrnamaint ac roedd 13 tîm wedi cofrestru i gyd.
Meddai Robert Darlington, Swyddog Pobl Ifanc Egnïol Wrecsam Egnïol: “Un o brif nodau Chwaraeon Cymru o ran mynd i’r afael ag anghydraddoldeb yw annog a grymuso mwy o ferched i fod yn egnïol a chadw’n egnïol, felly mae ein tîm yn gweithio’n galed i ddarparu mwy o gyfleoedd i fwy o ferched yn Wrecsam gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Rhan o hyn yw sicrhau bod medrau chwaraeon merched yn cael eu cydnabod, eu hannog a’u meithrin.”
Yr enillwyr oedd Maes Y Llan, a gurodd Plas Coch yn y rownd derfynol ar ddiwrnod gwlyb iawn, ond yn llawn hwyl a mwynhad.
Fel disgyblion a gyrhaeddodd y rownd derfynol, gwahoddwyd disgyblion o ysgolion Maes Y Llan a Phlas Coch i wylio gêm gartref olaf Clwb Pêl-droed Wrecsam yn erbyn Clwb Pêl-droed Fylde a chymryd rhan mewn gem ar y cae yn ystod hanner amser.
Dwedwch sut y medrwn ni ateb i’r heriau tai dros y pum mlynedd nesaf.
DW I EISIAU CYNNIG FY MARN AR DAI