Bydd Neuadd y Dref yn Wrecsam yn cael ei goleuo’n goch ddydd Llun (Gorffennaf 3) i helpu i ddathlu 80 mlynedd o’r Trefoil Guild.
Mae’r Trefoil Guild ar gyfer pobl 18 oed a throsodd, ac mae’n rhan o fudiad y Geidiaid, a bydd aelodau ar hyd a lled y wlad yn cymryd rhan mewn gweithgareddau a heriau i nodi’r pen-blwydd.
Mae gan Wrecsam hanes a hir a balch gyda’r Geidiaid, a bydd yr adeilad yn cael ei oleuo rhwng 9pm a hanner nos ar Orffennaf 3.
Dywedodd y Dirprwy Faer, y Cynghorydd Beryl Blackmore, a sefydlodd y 1st Marford Guides nifer o flynyddoedd yn ôl ac sy’n aelod o’r Trefoil Guild: “Mae Wrecsam wastad wedi bod yn fywiog o ran y Geidiaid ac rydw i wrth fy modd ein bod yn gallu helpu i nodi’r achlysur drwy oleuo Neuadd y Dref.
“Mae’r Trefoil Guild yn helpu i gadw ysbryd yr Enfysau, Brownis, y Geidiaid a’r Ceidwaid yn fyw yn ein cymunedau, ac mae wedi tyfu o fod yn sefydliad bach ar y cychwyn i sefydliad a gaiff ei garu a’i barchu’n fawr sy’n gwneud llawer o waith da. Bydded iddo barhau!”