Ddydd Mercher, Ionawr 27, mae Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio’r Holocost yn gofyn i bob aelwyd ar draws y DU gynnau cannwyll yn eu ffenestr i gofio dioddefwyr yr Holocost a hil-laddiadau diweddar.
Cynhelir digwyddiad ‘Goleuo’r Tywyllwch’ ar Ddiwrnod Rhyngwladol Cofio’r Holocost 2021, a’r gobaith yw taflu goleuni yn erbyn unrhyw gasineb a rhaniadau heddiw.
Darganfyddwch y gwybodaeth diweddaraf am Brechlyn Coronafeirws
Gofynnir i bobl gynnau eu cannwyll am 8pm, yn dilyn seremoni Diwrnod Cofio’r Holocost 2021, a fydd yn cael ei darlledu ar-lein. Bydd y seremoni’n dechrau am 7pm, a gall unrhyw un a hoffai wylio gofrestru i wneud hynny drwy glicio yma.
“Peidiwn ag anghofio’r erchyllterau”
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae mor bwysig nad ydym yn anghofio erchyllterau’r Holocost, lle lladdwyd chwe miliwn o bobl, nac ychwaith yr hil-laddiadau arswydus sydd wedi digwydd ers hynny yn Cambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur.
“Mae’r digwyddiad Goleuo’r Tywyllwch yn ffordd ddiogel o ddangos ein bod yn cofio am y trasiedïau hyn o gartref. Bydd pobl yn cynnau canhwyllau ac yn eu dangos yn eu ffenestri ar draws y DU am 8pm ar Ddiwrnod Cofio’r Holocost, ac rydym yn annog trigolion Wrecsam i wneud hynny hefyd.
“Rydym yn falch o fod yn dref amrywiol iawn, a byddwn bob amser yn herio pob ffurf ar anghydraddoldeb ac annynoldeb.”
“Mae Diwrnod Cofio’r Holocost i bawb”
Dywed Ymddiriedolaeth Cofio’r Holocost: “Roedd yr Holocost yn fygythiad i wead gwareiddiad, ac mae’n rhaid inni barhau i wrthsefyll hil-laddiad bob dydd. Mae ein byd yn aml yn teimlo’n fregus, ac ni allwn fod yn hunanfodlon. Hyd yn oed yn y DU, mae rhagfarn a ieithwedd casineb yn bodoli, ac mae’n rhaid i ni i gyd herio hynny.
“Mae Diwrnod Cofio’r Holocost i bawb. Bob blwyddyn ar draws y DU, daw pobl at ei gilydd i ddysgu mwy am y gorffennol ac i weithredu er mwyn creu dyfodol mwy diogel. Gwyddom eu bod yn dysgu mwy ac yn dangos mwy o empathi o ganlyniad i hynny.”
Am ragor o wybodaeth ynghylch sut y gallwch chi nodi Diwrnod Cofio’r Holocost 2021 yn eich cartref chi, ewch i dudalen HMD Together.
CANFOD Y FFEITHIAU