Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Goleuo’r Tywyllwch…nodwch Ddiwrnod yr Holocost gyda channwyll eleni
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Goleuo’r Tywyllwch…nodwch Ddiwrnod yr Holocost gyda channwyll eleni
Pobl a lle

Goleuo’r Tywyllwch…nodwch Ddiwrnod yr Holocost gyda channwyll eleni

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 22, 2021 12:45 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Lighting the Darkness…remember Holocaust Day with a candle this year
RHANNU

Ddydd Mercher, Ionawr 27, mae Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio’r Holocost yn gofyn i bob aelwyd ar draws y DU gynnau cannwyll yn eu ffenestr i gofio dioddefwyr yr Holocost a hil-laddiadau diweddar.

Cynnwys
  • “Peidiwn ag anghofio’r erchyllterau”
  • “Mae Diwrnod Cofio’r Holocost i bawb”

Cynhelir digwyddiad ‘Goleuo’r Tywyllwch’ ar Ddiwrnod Rhyngwladol Cofio’r Holocost 2021, a’r gobaith yw taflu goleuni yn erbyn unrhyw gasineb a rhaniadau heddiw.

Darganfyddwch y gwybodaeth diweddaraf am Brechlyn Coronafeirws

Gofynnir i bobl gynnau eu cannwyll am 8pm, yn dilyn seremoni Diwrnod Cofio’r Holocost 2021, a fydd yn cael ei darlledu ar-lein. Bydd y seremoni’n dechrau am 7pm, a gall unrhyw un a hoffai wylio gofrestru i wneud hynny drwy glicio yma.

“Peidiwn ag anghofio’r erchyllterau”

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae mor bwysig nad ydym yn anghofio erchyllterau’r Holocost, lle lladdwyd chwe miliwn o bobl, nac ychwaith yr hil-laddiadau arswydus sydd wedi digwydd ers hynny yn Cambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur.

“Mae’r digwyddiad Goleuo’r Tywyllwch yn ffordd ddiogel o ddangos ein bod yn cofio am y trasiedïau hyn o gartref. Bydd pobl yn cynnau canhwyllau ac yn eu dangos yn eu ffenestri ar draws y DU am 8pm ar Ddiwrnod Cofio’r Holocost, ac rydym yn annog trigolion Wrecsam i wneud hynny hefyd.

“Rydym yn falch o fod yn dref amrywiol iawn, a byddwn bob amser yn herio pob ffurf ar anghydraddoldeb ac annynoldeb.”

“Mae Diwrnod Cofio’r Holocost i bawb”

Dywed Ymddiriedolaeth Cofio’r Holocost: “Roedd yr Holocost yn fygythiad i wead gwareiddiad, ac mae’n rhaid inni barhau i wrthsefyll hil-laddiad bob dydd. Mae ein byd yn aml yn teimlo’n fregus, ac ni allwn fod yn hunanfodlon. Hyd yn oed yn y DU, mae rhagfarn a ieithwedd casineb yn bodoli, ac mae’n rhaid i ni i gyd herio hynny.

“Mae Diwrnod Cofio’r Holocost i bawb. Bob blwyddyn ar draws y DU, daw pobl at ei gilydd i ddysgu mwy am y gorffennol ac i weithredu er mwyn creu dyfodol mwy diogel. Gwyddom eu bod yn dysgu mwy ac yn dangos mwy o empathi o ganlyniad i hynny.”

Am ragor o wybodaeth ynghylch sut y gallwch chi nodi Diwrnod Cofio’r Holocost 2021 yn eich cartref chi, ewch i dudalen HMD Together.

???? Darganfyddwch y ffeithiau…darllenwch y gwybodaeth diweddaraf am brechlyn Covid-19 gan GIG Cymru ????

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://icc.gig.cymru/pynciau/imiwneiddio-a-brechlynnau/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/”]CANFOD Y FFEITHIAU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Dadansoddiad Prifysgol yn taflu goleuni pellach ar ddarganfyddiad Rhufeinig Wrecsam. Dadansoddiad Prifysgol yn taflu goleuni pellach ar ddarganfyddiad Rhufeinig Wrecsam.
Erthygl nesaf Covid-19 NODYN BRIFFIO COVID-19 – GWNEWCH EICH RHAN, ARHOSWCH YN GRYF A DALIWCH ATI

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

glyndwr
Oeddech chi’n gwybod am Fforwm Landlordiaid 2026 yn Wrecsam?
Digwyddiadau
Medi 14, 2026
Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Mayor with the Registrar team
ArallPobl a lleY cyngor

Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu

Medi 4, 2026
Football park and ride
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English