Ar 17 Medi, 2019, gorchmynnwyd masnachwr lleol i dalu £21,999.80, yn ogystal â derbyn Gorchymyn Ymddygiad Troseddol sy’n ei gyfyngu o, a’i fusnes rhag gwneud galwadau diwahoddiad yn ardal Wrecsam.
Aeth Safonau Masnach Wrecsam â’r achos yn erbyn William Evans T/A Evans North Wales Paving i Lys Ynadon Wrecsam.
Clywodd y fainc bod Mr Evans wedi gwneud gwaith a ystyriwyd nad oedd yn bodloni safonau disgwyliedig contractwr proffesiynol i eiddo yn y Waun ac ardal Garden Village rhwng mis Mai a mis Awst 2018.
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Ymhob achos, roedd y dioddefwyr yn ddynes yn byw ar ei phen ei hun, ac roedd y llys a Swyddogion Safonau Masnach yn ystyried eu bod yn agored i niwed.
Roedd pob un ohonynt yn dibynnu ar sgiliau a barn Mr Evans i gynnal gwaith angenrheidiol i’w cartrefi. Darganfuwyd nad oedd ei waith werth dim byd, ac yn disgyn yn llawer is na’r safonau a ddisgwylir gan fusnes cymwys. Plediodd Mr Evans yn euog i bob achos yn y llys.
Plediodd Mr Evans yn euog i gyhuddiad o arwain ymarfer busnes ymosodol hefyd – sy’n ymwneud ag ymddygiad a oedd yn cynnwys aflonyddu, gorfodaeth neu ddylanwad gormodol.
Am hyn, derbyniodd Mr Evans gyfran sylweddol o’r ddirwy gyffredinol posib. Bydd pob dioddefwr yn cael eu had-dalu am y gwaith yn llawn, ac yn derbyn gordal dioddefwr ychwanegol a ddyfarnwyd gan y llys. Yn llawn, gan ystyried costau cyfreithiol yr erlyniad, gorchmynnwyd Mr Evans i dalu £21,999.80.
Dyfarnwyd Gorchymyn Ymddygiad Troseddol hefyd, sy’n cyfyngu Mr Evans a’i fusnes rhag galw’n ddiwahoddiad yn ardal Wrecsam, neu ymgysylltu mewn arferion bygythiol, megis cymryd pobl i’r banc.
Mae’r gorchymyn yn sicrhau ei fod yn cydymffurfio gyda’r gofynion statudol y disgwylir gan unrhyw fusnes mewn perthynas â chontractau oddi ar eiddo busnes.
Dywedodd y Cyng Hugh Jones, Aelod Arweiniol Pobl – Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol, “Dyma ganlyniad gwych i achos lle’r oedd Mr Evans yn cymryd mantais o bob dioddefwr drwy gynnal gwaith diofal a oedd yn torri amodau gofynion disgwyliedig gan fusnes proffesiynol. Achosodd niwed a gofid sylweddol i’r dioddefwyr, ac fe ymatebodd yn anghyfrifol.
“Gobeithir y bydd y dioddefwr nawr yn gallu symud ymlaen gyda’u bywydau, ac mae hyn yn atgoffa masnachwyr twyllodrus bod Safonau Masnach Wrecsam yn gwneud popeth y gallant i warchod pobl a’u hawliau”.
Dywedodd Roger Mapleson, Arweinydd Safonau Masnach a Thrwydded, “mae Safonau Masnach Wrecsam yn ceisio cydweithio gyda busnesau yn Wrecsam i sicrhau eu bod yn cydymffurfio’n llawn gyda’r gyfraith a ddim yn cymryd pethau’n ysgafn. Ein cylch gwaith yw gwarchod y cyhoedd a busnesau sy’n masnachu’n gyfreithlon.
“Rydym yn falch o weld bod Llys Ynadol yn nodi arwyddocâd y drosedd hon, a’r effaith a gafodd ar ddioddefwyr, a oedd fel unrhyw un arall, eisiau gwaith adnewyddu ar eu tai. Byddwn yn parhau ein gwaith ar drosedd ar stepen y drws i ddiogelu’r cyhoedd yn Wrecsam ac yn rhoi terfyn ar fasnachwyr twyllodrus.”
Os hoffech chi wneud cwyn neu dderbyn cyngor am nwyddau neu wasanaethau rydych chi wedi’u prynu, cysylltwch â Gwasanaethau Cwsmeriaid Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505.
Neu, os oes arnoch chi eisiau rhoi gwybod am rywbeth amheus, cysylltwch â Gwasanaethau Cwsmeriaid Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505 neu Heddlu Gogledd Cymru ar 101.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN