Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Goroeswr canser yn rhoi syrpreis i roddwr bôn-gelloedd a achubodd ei bywyd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Goroeswr canser yn rhoi syrpreis i roddwr bôn-gelloedd a achubodd ei bywyd
Pobl a lle

Goroeswr canser yn rhoi syrpreis i roddwr bôn-gelloedd a achubodd ei bywyd

Diweddarwyd diwethaf: Medi 17, 2024 9:59 am
Rhannu
Darllen 5 funud
Goroeswr canser yn rhoi syrpreis i roddwr bôn-gelloedd a achubodd ei bywyd
RHANNU

Erthygl gwadd – Gwasanaeth Gwaed Cymru

Mae goroeswr canser o Gasnewydd yn galw am fwy o bobl i achub bywydau gyda Gwasanaeth Gwaed Cymru, ar ôl cyfarfod emosiynol i roi syrpreis i’w rhoddwr bôn-gelloedd.

Fe wnaeth Alison Belsham a’r rhoddwr bôn-gelloedd Rachel Rees, gyfarfod am y tro cyntaf mewn moment twymgalon a ddaliwyd ar gamera.

Fe wnaeth Rachel hedfan adref o Awstralia, gan ddisgwyl ymweld â’i ffrindiau ac anwyliaid yn ei thref enedigol, Llanelli. Yn ddiarwybod iddi, trefnodd teulu Rachel a’i derbynnydd bôn-gelloedd Alison, gyfarfod syrpreis iddi i’r ddwy gwrdd.

Cafodd y ddau eu ‘paru’ ar ôl i chwiliad byd-eang brys gael ei gynnal yn 2017, ar ôl i Alison gael diagnosis o Lewcemia am yr eildro. Achubwyd ei bywyd gan ddieithryn llwyr a oedd yn byw dim ond 90 munud i ffwrdd. Ar Ddiwrnod Rhoddwyr Mêr Esgyrn y Byd (dydd Sadwrn 21 Medi), mae Alison a Rachel yn gobeithio y bydd eu stori yn annog mwy o bobl i ymuno a helpu yn y frwydr yn erbyn canser y gwaed.

Wrth siarad am ei salwch, dywedodd Alison, “Roedd fy nhriniaeth gychwynnol yn cynnwys pum rownd o gemotherapi, a oedd yn ymddangos yn llwyddiannus. Ond ar ôl blwyddyn a hanner yn rhydd o ganser, cefais alwad ffôn i ddweud bod fy nghanser wedi dychwelyd. Roedd y newyddion yn gwbl ddinistriol i mi a fy nheulu wrth i’r dyfodol, unwaith eto, ddod yn ansicr.

“ Esboniodd fy Meddyg i mi pa mor bwysig oedd hi nawr i ddod o hyd i roddwr, gan mai trawsblaniad bôn-gelloedd oedd y gobaith olaf o achub fy mywyd.”

Er gwaethaf y ffaith bod mwy na 40 miliwn o wirfoddolwyr bôn-gelloedd ar draws y byd, ni fydd tri o bob deg claf yn dod o hyd i roddwr addas.

Gan dynnu sylw at y pwysigrwydd o ddod o hyd i rywun sy’n cydweddu, meddai Alison, “Ni ellir byth dweud ‘diolch’ digon, ni fydd byth digon o eiriau i fynegi rhywun yn gwneud rhywbeth fel ‘na. Rydw i nawr yn cael y cyfle i fyw bywyd llawn, treulio amser gwerthfawr gyda fy mhlant, a gweld fy ŵyr yn tyfu i fyny.”

Roedd y trawsblaniad a gafodd Alison yn defnyddio bôn-gelloedd iach Rachel, y rhoddwr, i gymryd lle ei chelloedd ei hun oedd yn achosi canser. Ers hynny, mae Alison wedi bod yn rhydd o ganser.

Dywedodd Rachel, “Rwyf mor falch ohoni, yn falch o’i hadferiad, yn falch o’i dycnwch ac rwyf mor ddiolchgar iddi estyn allan i gwrdd â mi. Rwyf mor falch o weld Alison yn hapus ac yn iach; mae cael ein teuluoedd yn cyfarfod wedi bod mor arbennig.”

Dywedodd Pennaeth Cofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru, Christopher Harvey, “Mae cleifion canser y gwaed ar draws y byd yn wynebu’r weithred o chwilio bob dydd, fel mater o frys, am rywun y mae eu bôn-gelloedd yn cydweddu. Mae’r gofynion ar gyfer paru claf â rhoddwr yn benodol iawn, ond mae’r cyfle i ddod o hyd i rywun sy’n cydweddu yn cynyddu wrth i fwy o wirfoddolwyr gofrestru.

“Os ydych chi rhwng 16-30 oed ac o gefndir Cawcasaidd, neu 16-45 oed ac o gefndir du, Asiaidd, hil gymysg neu ethnig leiafrifol, fe allech chi fod yr un person yn y byd a allai fod yn cydweddu – a dyna pam rydyn ni’n annog mwy o bobl i ymuno â’n Cofrestr, a helpu pobl fel Alison pan maen nhw ei angen fwyaf.

“Dydy hi erioed wedi bod yn haws ymuno. P’un a ydych yn gymwys, neu’n adnabod rhywun a allai fod yn gymwys, siaradwch am y Gofrestr hon sy’n newid bywydau, a helpwch i roi cyfle i fwy o gleifion oresgyn eu salwch.”

Mae dwy ffordd i ymuno â chofrestr mêr esgyrn Gwasanaeth Gwaed Cymru; trwy ofyn am becyn swab ar-lein sy’n cael ei ddanfon i’ch cartref neu wrth roi gwaed. I gefnogi neu gofrestru, ewch i www.welshblood.org.uk.

Rhannu
Erthygl flaenorol Mwy o gynnydd ar gyfer Amgueddfa Dau Hanner newydd Wrecsam Mwy o gynnydd ar gyfer Amgueddfa Dau Hanner newydd Wrecsam
Erthygl nesaf Wrexham seco Nosweithiau agored

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
Ty Pawb and Pittsburgh University
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English