Dychwelodd dyn a ddioddefodd drawiad ar y galon wrth gymryd rhan mewn triathlon yn i helpu fel marsial yn y gystadleuaeth.
Dioddefodd George Jones, 73 oed o Lyn Ceiriog, drawiad ar y galon wrth gymryd rhan yng nghymal beicio Triathlon y Waun 2016.
Cymerodd ran yn y triathlon fel rhan o dîm cyfnewid gyda dau gyfaill, gyda fo yn cwblhau cymal beicio’r gystadleuaeth a’i gyd-gystadleuwyr yn cwblhau’r cymalau nofio a rhedeg.
Yn anffodus, dioddefodd drawiad ar y galon yn ystod y ras wrth feicio ar Stryt yr Eglwys, a gofalwyd amdano gan wirfoddolwyr Ambiwlans St John a marsialiaid y ras.
Yna cafodd ei hedfan i Ysbyty Prifysgol Frenhinol Stoke, Swydd Stafford, gan Ambiwlans Awyr Cymru a daeth at ei hun yn ddiweddarach.
Fel rhan o’i adferiad, cymerodd Mr Jones ran mewn rhaglen ymarfer corff 10 wythnos, a chynlluniwyd rhan ohono gan staff yn Ysbyty Maelor Wrecsam, a bu’n ymarfer corff yn rheolaidd yng Nghanolfan Hamdden a Gweithgareddau’r Waun.
Ers hynny mae wedi parhau i fod yn ddefnyddiwr brwd o’r ganolfan, a ddychwelodd fel marsial i Driathlon y Waun eleni, ar ddydd Sul, 15 Awst.
“Rydw i wastad wedi bod yn feiciwr brwd”
Dywedodd Mr Jones: “Rydw i wastad wedi bod yn feiciwr brwd, ond doeddwn i ddim yn hoffi’r cymal rhedeg – roedd y nofio yn iawn, ond rydw i wastad wedi casáu rhedeg.
“Yn y tair blynedd cyn fy nhrawiad, roeddwn wedi bod yn aelod o dîm cyfnewid yn cymryd rhan yn y triathlon – ac roedd oedran cyfun y tîm yn hŷn na 200!”
Cafodd seibiant o’r ymarfer yn ddiweddar ar ôl dioddef niwmonia – ond roedd yn ôl yn y ganolfan ddydd Llun, lai nag wythnos cyn cymryd rhan fel marsial.
Dyma oedd y tro cyntaf iddo ddychwelyd i’r gampfa ers i’r gwaith gwella gael ei wneud mewn canolfannau hamdden a gweithgareddau sy’n cael eu rhedeg gan Freedom Leisure yn Wrecsam y llynedd.
Ychwanegodd Mr Jones: “Aeth y ddiwrnod yn dda iawn – oeddwn i’n marsial o ganol dydd hyd at diwedd y triathlon. Ac mi oedd o’n bleser i weld y rhai a gymrodd rhan.”
“Mae’n bleser i glywed y beicwyr yn diolchi’r marsialwyr wrth iddyn nhw mynd heibio – s’nam rhaid iddyn nhw.
“Buasai’n hoffi i gymryd rhan fy hyn, ond mae fy nyddiau i o gymryd rhan wedi ddod i ben.”
“Wrth fy modd gyda’r cyfleusterau yn y Waun”
Meddai: “Penderfynais gymryd seibiant gan fy mod newydd ddioddef niwmonia, ond roeddwn yn ôl i mewn ddydd Llun ac roeddwn wrth fy modd gyda’r cyfleusterau yno – yn enwedig gan fy mod yn gallu monitro fy nghuriad calon.
“Maen nhw’n gallu gweld beth sy’n digwydd gyda fy nghalon, ac mae hynny’n beth da iawn. Gallan nhw weld os ydw i’n gorwneud pethau, ond hefyd efallai bydd yna ymarferion lle gallwn fod yn gwneud ychydig yn fwy.”
Ychwanegodd: “Rydw i’n 73 rŵan, ac roeddwn yn gobeithio bod yn egnïol i mewn i fy wythdegau – mae’n debyg y bydda i, ond ddim mor gyflym ac roeddwn i wedi gobeithio!”
Dywedodd y Cyng. Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrthdlodi, sydd â chyfrifoldeb dros Hamdden: “Mae Brwdfrydedd Mr Jones a’i awydd parhaus i ymarfer yng Nghanolfan Hamdden a Gweithgareddau y Waun yn gampus, ac rwy’n falch i glywed mi oedd y tywydd yn ymddwyn, nid o’i ran o a’i gyd-farsialiaid yn unig, ond i bawb a fydd yn cymryd rhan yn Nhriathlon y Waun.”
Dwedwch sut y medrwn ni ateb i’r heriau tai dros y pum mlynedd nesaf.
DW I EISIAU CYNNIG FY MARN AR DAI