Ddydd Llun, 20 Ionawr, siaradodd Tomi Komoly, goroeswr yr holocost â 153 o ddisgyblion yn Ysgol Uwchradd Darland, am ei brofiadau yn ystod yr Ail Ryfel Byd, pan oedd yn byw yn Hwngari o dan feddiannaeth y Natsïaid.
Roedd yn ddisgrifiad gonest, a roddodd brofiad gwerthfawr, llawn gwybodaeth i ddisgyblion ac athrawon Darland.
Cafodd y 153 o haneswyr Cyfnod Allweddol 4 a oedd yn bresennol, gyfle i ofyn cwestiynau i Mr Komoly am y cyfnod anodd hwn yn ei fywyd.
Dywedodd Dan Jones, Pennaeth Hanes: “Siaradodd Mr Komoly yn agored am ei brofiadau i ateb rhai o’r cwestiynau a ofynnwyd. Siaradodd am faddeuant, teimladau tuag at Almaenwyr a Hwngariaid, ac am y cynnydd mewn gwleidyddiaeth adain dde yn yr Ewrop fodern a’i bryderon ynghylch hynny. Dywedodd hefyd nad oedd erioed wedi profi gwrth-semitiaeth yn y DU.”
Cafodd yr ymweliad ei drefnu i roi cyfle i ddisgyblion hanes yn Darland ddysgu am emosiynau a’r frwydr yn ystod cyfnod hynod o anodd yn ein hanes, cyn Diwrnod Cofio’r Holocost (27 Ionawr).
Soniodd Mr Komoly ei fod wedi colli cysylltiad gyda’i dad yn 8 oed, ac ni welodd ef eto a’r hyn y tybiodd oedd wedi digwydd iddo.
Trafododd hefyd sut wnaeth ef a’i fam osgoi cael eu dal gan y Natsïaid a’r ffasgwyr Hwngaraidd hefyd.
Derbyniwch y wybodaeth ddiweddaraf o ran graeanu yn syth i’ch mewnflwch
COFRESTRWCH FI RŴAN