Mae newyddion da ar gyfer defnyddwyr bysiau yn Wrecsam gan fod yr orsaf fysiau wedi ail-agor i’r cyhoedd gydag arwyddion cadw pellter cymdeithasol ychwanegol a phwyntiau diheintio dwylo yn eu lle er mwyn sicrhau teithwyr eu bod yn teithio’n ddiogel.
Ers y cyfnod clo, mae teithwyr wedi gorfod defnyddio’r ardaloedd tu allan i’r orsaf yn unig, gan olygu nad oedd unrhyw le i eistedd.
Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws
Mae ailagor yr orsaf yn cyd-fynd â’r cyflwyniad o siwrnai ychwanegol ac amlderau cynyddol y llwybrau bysiau lleol. Mae hyn wedi bod yn bosibl drwy Lywodraeth Cymru, sydd wedi gwneud £10 miliwn o gyllid ychwanegol ar gael i wella lefelau gwasanaeth bysiau ar draws Cymru.
Mae gwasanaethau bysiau lleol yn dal i gael eu gweithredu ar gapasiti llai er mwyn cydymffurfio â gofynion cadw pellter cymdeithasol, ond wrth i fwy o bobl ddychwelyd i’r gwaith, neu fynd ar siwrnai ar gyfer hamdden neu siopa, mae’r galw am gludiant cyhoeddus yn parhau i gynyddu.
Wrth ragweld y bydd cynnydd yn y nifer o blant a fydd yn defnyddio’r rhwydwaith fysiau lleol i fynd i’r ysgol, mae Arriva wedi cyflwyno nifer o siwrneiau ychwanegol i gyd-fynd ag amseroedd y diwrnod ysgol, i’w defnyddio gan ddisgyblion yn unig, na fydd ar gael i’r cyhoedd.
Y rhain yw:
Gwasanaeth 1S Gorsaf Fysiau Wrecsam i Ysgol Darland, yn gadael o’r orsaf fysiau am 0747 0802, 0810, 0813 a gadael Ysgol Darland am 1510 1512, 1514, 1516
Gwasanaeth 3S Gorsaf Fysiau Wrecsam i Benycae (ar gyfer Ysgol Grango) yn gadael o’r orsaf fysiau am 0745, ac yn gadael Penycae (tuag at Wrecsam) am 1544
Gwasanaeth 5CS Gorsaf Fysiau Wrecsam i Langollen (drwy Blas Madoc a Chefn Mawr) yn gadael o’r orsaf fysiau am 0702 07320, ac yn gadael Llangollen am 1525, 1535 a 1610
Gwasanaeth 8S Gorsaf Fysiau Wrecsam i Barc Caia (drwy Hightown i Ysgol Morgan Llwyd) yn gadael yr orsaf fysiau am 0806 a gwasanaeth 7S o Ysgol Morgan Llwyd am 1547
Gwasanaeth 27S Gorsaf Fysiau Wrecsam i’r Wyddgrug (ar gyfer Ysgol Alun, yr Wyddgrug) gan adael yr orsaf fysiau am 0755, a gadael yr Wyddgrug am 1543
Gwasanaeth 33S Gwasanaeth Fysiau Wrecsam i Lai (ar gyfer Ysgol Bryn Alun) yn gadael yr orsaf fysiau am 1535
Nodyn i atgoffa ar holl wasanaethau bysiau lleol, ac ar lwybrau cludiant o’r cartref i’r ysgol a ddarperir gan Gyngor Wrecsam, bydd rhaid gwisgo gorchuddion wyneb.
Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae hyn yn newyddion da iawn ac yn arwydd ein bod yn parhau i weld dychweliad graddol a diogel i’r arfer. Cofiwch, mae’r feirws yn dal i fod yn ein cymunedau ac mae’n rhaid i ni gymryd gofal ychwanegol am hylendid a chadw pellter cymdeithasol wrth ddefnyddio neu ddefnyddio cludiant cyhoeddus neu gludiant o’r cartref i’r ysgol. Nid ydym eisiau gweld y cyfyngiadau yn dod yn ôl oherwydd cynnydd mewn achosion cadarnhaol yn Wrecsam. Rydym oll angen chwarae ein rhan i barhau i gadw Wrecsam yn ddiogel.”
Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol ar gyfer Addysg: “Mae nifer o’n disgyblion yn defnyddio cludiant cyhoeddus yn aml er mwyn mynd i’r ysgol a bydd y gwasanaethau ychwanegol ar gyfer ysgolion yn ein helpu i sicrhau bod hyn yn dal i ddigwydd. Mae’n rhaid gwisgo gorchuddion y wyneb ar holl wasanaethau masnachol a chludiant o’r cartref i’r ysgol i unrhyw un dros 11 oed a gofynnir i rieni ddarparu gorchuddion wyneb addas i’w plant.”
YMGEISIWCH RŴAN