Unwaith eto, mae modd i ni ddathlu Dydd Gŵyl Dewi yn arddull unigryw Wrecsam, drwy gynnal gorymdaith drwy ganol y dref ac mae gwahoddiad i chi gyd gymryd rhan gyda chlychau, chwibanau a baneri. ????
Mae’r digwyddiad yn cael ei drefnu mewn partneriaeth gyda Menter Iaith Fflint a Wrecsam ac mae’n dechrau am 1.00pm dydd Mawrth, 1 Mawrth 2022. Mae’r digwyddiad yn rhan o raglennu ar gyfer Dinas Diwylliant #Wrecsam2025 a’i nod yw codi ymwybyddiaeth o’n cais a’r manteision i’r rhanbarth.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Bydd yr orymdaith yn cael ei harwain gan Fand Cambria er mwyn ychwanegu ymdeimlad Cymreig arbennig i’r digwyddiad, gyda pherfformiadau cerddoriaeth fyw yn Gymraeg gan gorau a cherddorion acwstig a fydd yn cael eu cynnal ar y llwyfan yn Sgwâr y Frenhines.
Gall pob grŵp, sefydliad, busnes, ysgol ac unigolyn gymryd rhan ac unwaith eto, bydd pob rhan o Wrecsam yn cyd-gerdded i ddathlu ein diwrnod cenedlaethol arbennig.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol, “Mae hi’n braf gweld y digwyddiad yma’n ôl yng nghanol y dref ar ôl i gyfyngiadau Covid-19 olygu nad oedd modd i bobl ymgynnull ynghyd.
“Mae bob amser yn boblogaidd a dwi’n edrych ymlaen at weld pobl o bob cymuned, ysgol, a sefydliad yn dod ynghyd i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.”
Mae’r trefnwyr yn atgoffa pawb bod y pandemig dal yma, felly er mwyn eich diogelwch eich hun a’r gymuned, cadwch bellter cymdeithasol lle bynnag y bo hynny’n bosibl.
Cofiwch y dyddiad – dydd Mawrth, 1 Mawrth 2022, am 1pm. Croesawir baneri!!!
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL