Ydych chi wedi bod yn dilyn ein rhaglen Sgiliau Adeiladu Traddodiadol?
(Os nad ydych chi, mae mwy o wybodaeth yn yr erthygl yma)
Mae ein sesiynau hyfforddi nesaf ar ddod – ac rydyn ni’n chwilio am gontractwyr, gweithwyr yn y diwydiant a phrentisiaid a fyddai â diddordeb datblygu eu sgiliau.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Cyflwyniad i galch
Mae gennym ni gwrs ar gyflwyniad i galch dros ddwy noson o 5pm tan 8pm nos Lun, 5 Awst a nos Fawrth, 6 Awst.
Mae’r cwrs yn rhoi cyflwyniad theoretig ac ymarferol i galch, ynghyd â’i ddefnydd a’i nodweddion.
Mae’n egluro pam y dylid defnyddio calch mewn adeiladau traddodiadol (cyn 1919), ac mae’n cynnig cyfle i chi gymysgu a gosod morter traddodiadol eich hun.
Os byddwch chi’n dod, cewch hefyd gyfle i ddysgu am:
- gyd-destun morter calch mewn adeiladau traddodiadol
- Iechyd a diogelwch yn gysylltiedig â defnyddio calch ar safle
- Offer a chyfarpar a ddefnyddir i gymysgu morter calch
- Gwahanol fathau o galch a dewis agregau addas; cyfrannau cymysgu a chymysgeddau cywir.
- Technegau pwyntio gyda sesiwn ymarferol
- Crynodeb o’r cwrs a sesiwn holi ac ateb i ddilyn
Os oes gennych chi ddiddordeb yn y cyflwyniad i galch, cysylltwch â’n tîm Sgiliau Adeiladu Traddodiadol drwy anfon e-bost at david.davies@wrexham.gov.uk neu janine.began@wrexham.gov.uk.
Mae’r prosiect hwn wedi derbyn arian drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION