Grant Arloesi Cyfleoedd Chwarae Digonol Wrecsam 2020-21
Sefydlwyd y rhaglen grantiau tymor byr hon gan fod Llywodraeth Cymru, yn ddiweddar, wedi rhoi cyllid ar gael i gefnogi cyfleoedd chwarae i blant a Dyletswydd Cyfleoedd Chwarae Digonol Cymru, yn benodol. Felly, pwrpas y rhaglen grantiau yw gwella cyfleoedd i blant (gan gynnwys plant yn eu harddegau) gael chwarae, gyda’r nod o helpu i sicrhau bod cyfleoedd chwarae digonol ar draws y fwrdeistref sirol.
Darganfyddwch y gwybodaeth diweddaraf am Brechlyn Coronafeirws
Mae’r rhaglen grantiau’n agored i unrhyw sefydliadau neu grwpiau sy’n gweithio gyda phlant neu’n gweithio i’w cefnogi a chefnogi eu cyfleoedd i chwarae yn Wrecsam.
Gallwch ymgeisio am hyd at £2,000, ond, gan ddibynnu ar y galw am gyllid ac addasrwydd y ceisiadau a geir, fe all Tîm Cefnogi Chwarae ac Ieuenctid CBSW benderfynu dyrannu mwy neu lai i brosiectau na’r swm y gofynnwyd amdano’n wreiddiol, ble bo hynny’n briodol.
Oherwydd y diffyg amser, dyddiad cau ar gyfer ceisiadau fydd dydd Gwener 15 Ionawr 2021.
Am fwy o fanylion cysylltwch â play@wrexham.gov.uk
Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, Aelod Arweiniol dros Wasanaethau Ieuenctid a Gwrth-dlodi: “Mae hwn yn gyfle da, ac rydym yn annog grwpiau a sefydliadau yn Wrecsam sy’n gweithio gyda phlant ac yn cefnogi chwarae i edrych yn agosach ac ystyrio gwneud cais.”
CANFOD Y FFEITHIAU